Warning: "continue" targeting switch is equivalent to "break". Did you mean to use "continue 2"? in /home/wellbeingsite/FK268NZX/htdocs/wp-content/themes/Divi/includes/builder/functions.php on line 4766
Port Talbot | well-being Assessment

PORT TALBOT

CYFLWYNIAD

Mae ardal gymunedol Port Talbot yn cynnwys adrannau etholiadol y Bryn a Chwmafan, Baglan, Aberafan, Dwyrain Sandfields, Gorllewin Sandfields, Port Talbot, Margam a Thai-bach.

Mae ardal gymunedol Port Talbot yn enwog am ei:

threftadaeth ddiwydiannol

a’r arfordir

a’r ardal wledig ogoneddus o’i hamgylch

Mae Port Talbot yn gartref i rai o wneuthurwyr mwyaf y DU:

 

megis Tata Steel

BOC

TWI

Mae gan Bort Talbot theatr o’r enw Theatr y Dywysoges Frenhinol, lleoliad diwylliannol sy’n darparu amrywiaeth o adloniant, o sioeau cerdd i bantomeimau. Gerllaw’r theatr mae Canolfan Siopa Aberafan. Cynhelir marchnad awyr agored yng nghanol tref Port Talbot bob dydd Mawrth a dydd Sadwrn.

Ar hyn o bryd mae canol tref Port Talbot yn rhan o raglen adfywio sylweddol o’r enw ‘Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid’. Mae’r rhaglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid, cronfa adfywio gwerth £110m Llywodraeth Cymru, yn ymroddeddig i raglenni adfywio ar draws nifer o drefi yng Nghymru.

Mae Port Talbot yn un o’r 11 o drefi yng Nghymru sy’n elwa o gyfran o’r gronfa, lle mae pwyslais ar wella’r cyflenwad tai a phrosiectau sy’n darparu cyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth. Nod y fenter yw trawsnewid amgylchedd byw a gweithio’r dref, gan ddenu cyfleoedd datblygu a chyflogaeth newydd. Bydd hyn yn creu lle mwy cynhwysol, ffyniannus, iach a chynaliadwy i fyw a gweithio ynddo.

CANFYDDIADAU ALLWEDDOL O’N HYMARFERION CYNNWYS AC YMCHWIL:

CYMDEITHASOL

Mae ffrindiau, aelodau teulu a’r gymuned yn elfennau allweddol o les cymdeithasol ym marn ymatebwyr o Bort Talbot. Roedd cadw’n heini’n bwysig, fel yr oedd cadw’n iach a chael amser i’w dreulio gyda phobl.

Roedd pethau a fyddai’n gwella lles unigol fwyaf yn yr ardal hon yn ymwneud â’r:

cydbwysedd bywyd/gwaith

leihau costau

gwella cludiant cyhoeddus

ECONOMAIDD

I ymatebwyr i’r arolwg, lles economaidd oedd gallu fforddio hanfodion sylfaenol a phethau bach moethus, cynnal safon byw gyfforddus a sicrwydd ariannol. Nododd cyfranogwyr nifer o ffactorau a allai gyfrannu at eu lles economaidd; roedd y rhain:

IMPROVED FINANCIAL LITERACY

gwell cyfleoedd addysg i’r rhai dros 25 oed

costau gofal plant llai

Llety Fforddiadwy

Pensiwn cyntddol

Mynegwyd pryder gan eraill ynglŷn â diffygion yn narpariaeth cludiant cyhoeddus, gan fod gwasanaethau bysus annibynadwy a thacsis drud yn gwneud teithio’n anodd i breswylwyr nad oeddent yn berchen ar geir.

Dengys gwybodaeth o’r cyfrifiad diwethaf (2011) y bu 4.7% o ddiweithdra yn ardal gymunedol Port Talbot a bod 32% o’r rhai a oedd yn 16 oed ac yn hŷn heb unrhyw gymwysterau, sy’n uwch na ffigur Cymru gyfan, sef 25.9%.

O’r 19,894 o gartrefi yn yr ardal, nodwyd bod 13,379 (67.3%) yn ddifreintiedig, gan ddefnyddio un neu fwy o’r 4 dimensiwn amddifadedd canlynol: cyflogaeth, addysg, iechyd/anabledd a gorboblogi mewn aelwydydd (Cyfrifiad 2011).

AMGYLCHEDDOL

Mae ein hasedau amgylcheddol mwyaf yn cynnwys Glan Môr Aberafan, lle rydym wedi gweld gwelliannau sylweddol yn ansawdd y dŵr ymdrochi a, chydag un o’r traethau hwyaf yng Nghymru, mae’n cynnig cyfleoedd hamdden sylweddol i’r gymuned leol a thwristiaid.

Mae’r gwregys arfordirol yn arbennig o bwysig am ei gynefinoedd a’i rywogaethau amrywiol. Mae Parc Gwledig Margam yn gartref i 14 o’r 18 o rywogaethau ystlumod y DU. Mae hefyd yn amgylchedd iach a hamddenol i’r llu o ymwelwyr sy’n dod i’r ardal.

Mae cyflenwad dŵr cynaliadwy’n hanfodol ar gyfer datblygu economaidd a ffyniant ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.

Mae nifer o ffactorau’n effeithio ar ansawdd aer Port Talbot, gan gynnwys y tywydd, y topograffi, a ffynonellau allyriadau o’r ardal leol a’r tu hwnt iddi, ac mae’n gysylltiedig yn benodol â’r gwaith dur, y diwydiannau adeiladu a thrafnidiaeth. Datganwyd Ardal Rheoli Ansawdd Aer yn Nhai-bach/Margam yn 2000. Cafwyd cryn welliant yn ansawdd aer Port Talbot dros y 10 mlynedd ddiwethaf, ond mae angen mwy o welliant o hyd.

Mater allweddol arall wrth ystyried datblygiadau yn y dyfodol yw llifogydd. Mae cynllun llifogydd sylweddol wedi cael ei gwblhau yn Aberafan. Nodwyd bod dwy ardal ymysg y 10 cymuned sydd â’r perygl mwyaf o lifogydd – Port Talbot a Margam. Ystyrir bod Baglan mewn perygl hefyd. Mae llifogydd arfordirol hefyd yn ystyriaeth gan fod rhagamcaniadau newid yn yr hinsawdd yn awgrymu y bydd lefel y môr yn codi rhwng 0.2 ac 1 fetr ar hyd arfordir de Cymru. Mae opsiynau amgen yn cael eu hystyried i reoli llifogydd mewn modd naturiol yn nalgylch Ffrwd Wyllt.

Trwy gydol yr ymgynghoriad, roedd amgylchedd naturiol a chefn gwlad Port Talbot yn cael eu hamlygu fel un o’n hasedau mwyaf, gyda phreswylwyr yn gwerthfawrogi effaith gadarnhaol yr amgylchedd ar eu lles. Mae’r defnydd cynaliadwy o’n hasedau naturiol yn y dyfodol yn hanfodol i sicrhau lles cenedlaethau’r dyfodol.

O ran pethau a allai wella lles amgylcheddol yr ardal, rhoddodd ymatebwyr i’r arolwg o ardal gymunedol Port Talbot bwyslais penodol ar aer lân a llai o lygredd diwydiannol.

Aer glân

Llygredd diwydiannol gostyngol

DIWYLLIANNOL

Mae gan ardal gymunedol Port Talbot ystod gyfoethog ac amrywiol o asedau treftadaeth adeiledig a diwylliannol, sy’n hollbwysig wrth greu ymdeimlad o le a hunaniaeth leol i’r ardal. Mae’r amgylchedd diwylliannol yn cynnwys lleoliadau a safleoedd chwaraeon cymunedol, megis Canolfan Hamdden a Ffitrwydd Aberafan newydd ei hailddatblygu, Theatr y Dywysoges Frenhinol a nifer o adeiladau a gerddi hanesyddol, megis Parc Gwledig a Chastell Margam. Mae Port Talbot ei hun yn cynnwys 102 o adeiladau rhestredig.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Port Talbot yn rheoli pedair llyfrgell yn yr ardal, sef yng Nghanolfan Siopa Aberafan, Baglan, Sandfields a Chwmafan. Mae hefyd lyfrgell a reolir gan y gymuned yn Nhai-bach.

Port Talbot yw man geni/cartref nifer o actorion adnabyddus, megis Syr Anthony Hopkins a Michael Sheen. Mae cerdd heb ei chyhoeddi a ysgrifennwyd gan Richard Burton i’w gweld ym Mharc Coffa Tai-bach.

Mae 28 o barciau/lleoedd chwarae yn yr ardal ar hyd o bryd; mae gan 21 o’r rhain gyfarpar chwarae sefydlog ac mae gan 5 ohonynt ardal gemau amlddefnydd. Mae gan ardal gymunedol Port Talbot 12 o fannau gwyrdd gan amrywio o ardaloedd amwynder anffurfiol i goetir.

I bobl sy’n byw ym Mhort Talbot, roedd hanes lleol yn bwysig wrth gynnal eu lles, fel yr oedd digwyddiadau diwylliannol megis yr ŵyl fwyd dan do a digwyddiadau corawl. O ran pethau a allai wella lles diwylliannol yr ardal, addysg (ac yn benodol y cyfle i ddysgu’r Gymraeg) oedd y thema fwyaf cyson.

O ran y Gymraeg, 9.4% (4,187) yn unig o breswylwyr yn ardal Port Talbot sy’n gallu siarad Cymraeg.

Yn debyg i ardal gymunedol Castell-nedd, mae nifer y bobl o grwpiau du a lleiafrifoedd ethnig yn ardal gymunedol Port Talbot yn fach, gan adlewyrchu’r sefyllfa gyffredinol ar draws y fwrdeistref sirol.

Dengys gwybodaeth o’r cyfrifiad ostyngiad yng nghanran y bobl a oedd yn disgrifio eu hunain yn Gristnogion, o 75% yn 2001 i 59% yn 2011. Yn ystod yr un cyfnod, bu cynnydd amlwg yn nifer y bobl a oedd yn nodi ‘dim crefydd’, o 17% i 33%.

LAWRLWYTH PDFAU

Tel: 01639 763418

Tel: 01639 763418

Email: improvement@npt.gov.uk

Email: improvement@npt.gov.uk