PONTARDAWE

CYFLWYNIAD

Mae ardal gymunedol Pontardawe’n cynnwys adrannau etholiadol Pontardawe, Rhos, Trebannws ac Allt-wen.

Saif tref Pontardawe ar lan afon Tawe. Yn Saesneg yn aml, defnyddir y llysenw ‘Ponty’ amdani.

Mae gan ardal gymunedol Pontardawe ddigonedd o fannau agored ac mae rhwydwaith da o lwybrau cyhoeddus a llwybrau beicio. Mae Coetiroedd Cwm Du a Phlanhigfa Glanrhyd yn union i’r gogledd-orllewin o Bontardawe, o fewn pellter cerdded i ganol y dref.

CANFYDDIADAU ALLWEDDOL O’N HYMARFERION CYNNWYS AC YMCHWIL:

CYMDEITHASOL

Yn ôl ymatebwyr o ardal Pontardawe, lles cymdeithasol yw cynhwysiad cymdeithasol:

sef ymdeimlad o berthyn i deulu estynedig

Roedd y cydbwysedd bywyd/gwaith

chwarae rôl ystyrlon/weithredol yn y gymdeithas

yn ogystal â chwaraeon

Gellid gwella lles cymdeithasol i’r rhai sydd mewn cyflogaeth trwy sicrhau mwy o amser rhydd a chydbwysedd bywyd/gwaith gwell.

ECONOMAIDD

Roedd ymatebwyr i’r arolwg yn yr ardal hon yn fwy tebygol na phobl o rannau eraill y fwrdeistref sirol o ddiffinio lles economaidd fel bod â:

digon o amser i fwynhau bywyd i’r eithaf

swydd dda

ynghyd ag osgoi dyledion a bod â digon o arian

Dengys gwybodaeth o’r cyfrifiad diwethaf (2011) y bu 3.8% o ddiweithdra yn ardal Pontardawe a bod 23.2% o’r rhai a oedd yn 16 oed ac yn hŷn heb unrhyw gymwysterau, sy’n is na ffigur Cymru gyfan, sef 25.9%.

O’r 4,904 o gartrefi yn yr ardal, nodwyd bod 2,982 (60.8%) yn ddifreintiedig, gan ddefnyddio un neu fwy o’r 4 dimensiwn amddifadedd canlynol: cyflogaeth, addysg, iechyd/anabledd a gorboblogi mewn aelwydydd (Cyfrifiad 2011).

AMGYLCHEDDOL

Roedd ymatebion i’r arolwg ynglŷn â lles amgylcheddol yn canolbwyntio’n bennaf ar fannau agored glân a diogel. Yn ardal gymunedol Pontardawe mae chwe Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig dynodedig sy’n cynnwys amrywiaeth o gynefinoedd pwysig megis glaswelltir, dolydd a choetir heb eu gwella.

Mae Camlas Tawe’n bwysig i fywyd gwyllt, yn cynnwys llawer o nodweddion hanesyddol ac yn darparu llwybr cerdded/beicio hyfryd o Glydach i Bontardawe.

Ymysg y ffactorau sy’n cyfrannu at les:

Agosrwydd at draethau

Coetir a bryniau

Gallu gweld y sêr yn y nos

mynd am dro yng nghefn gwlad

Mae coetiroedd yr ardal yn darparu arddangosfa ysblennydd o glychau’r gog a phren marw, sydd oll yn adnoddau gwych i gnocellod y coed a bywyd gwyllt arall y coetir.

Hefyd ystyrid bod beicio’n weithgaredd pwysig, ynghyd â thyfu llysiau a gweithgareddau i deuluoedd. Roedd tipio anghyfreithlon, llygredd diwydiannol a llifogydd achlysurol yn destunau pryder i bobl.

 

DIWYLLIANNOL

I bobl a oedd yn byw yn yr ardal gymunedol, roedd lles diwylliannol yn canolbwyntio ar fynediad i theatrau, sinemâu a llyfrgelloedd a darparu amrywiaeth o gelfyddydau yn y gymuned. Cafodd y digwyddiadau a’r gweithgareddau yng Nghanolfan Celfyddydau Pontardawe eu canmol yn eang a nodwyd bod y ganolfan yn hwb diwylliannol i bobl o bob rhan o’r ardal.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn rheoli un llyfrgell yn yr ardal. Ceir 25 o adeiladau rhestredig yn yr ardal gymunedol.

Mae naw parc/lle chwarae yn yr ardal ar hyn o bryd.  Mae cyfleusterau chwaraeon a hamdden yng Nghanolfan Hamdden Pontardawe sy’n cynnig amrywiaeth o gyfleusterau. Mae darpariaeth hamdden arall yn cynnwys pwll nofio a chwrs golff.

O ran y Gymraeg, mae 25.8% (3,335) o breswylwyr ym Mhontardawe’n gallu siarad Cymraeg.

Yn debyg i ardaloedd cymunedol eraill, mae nifer y bobl o grwpiau du a lleiafrifoedd ethnig yn ardal gymunedol Pontardawe yn fach, gan adlewyrchu’r sefyllfa gyffredinol ar draws y bwrdeistref sirol.

Dengys gwybodaeth o’r cyfrifiad ostyngiad yng nghanran y bobl a oedd yn disgrifio eu hunain yn Gristnogion, o 74% yn 2001 i 61% yn 2011. Yn ystod yr un cyfnod, bu cynnydd amlwg yn nifer y bobl a oedd yn nodi ‘dim crefydd’, o 18% i 31%.

LAWRLWYTH PDFAU

Tel: 01639 763418

Tel: 01639 763418

Email: improvement@npt.gov.uk

Email: improvement@npt.gov.uk