Warning: "continue" targeting switch is equivalent to "break". Did you mean to use "continue 2"? in /home/wellbeingsite/FK268NZX/htdocs/wp-content/themes/Divi/includes/builder/functions.php on line 4766
ECONOMAIDD | well-being Assessment

ECONOMAIDD

Mae’r nod lles Cymru Lewyrchus sy’n rhan o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 am i Gymru gyflawni’r pethau canlynol:

Mae preswylwyr Castell-nedd Port Talbot (CNPT) yn dehongli lles economaidd fel incwm a’i berthynas â’u safonau byw.

Gellir rhannu lles economaidd yn 5 is-thema:

Incwm

Cyflogaeth

Addysg a Sgiliau

Isadeiledd a Thechnoleg

Twristiaeth

INCWM

Yn hanesyddol yn CNPT, bu’r economi dan ddylanwad trwm cynhyrchu dur a gweithgareddau diwydiannol eraill. Rhagwelir gostyngiad mewn swyddi gweithgynhyrchu traddodiadol, ond ar gyfradd is na’r tueddiadau blaenorol.

Nid ellir tanbrisio effaith economaidd cyflogwyr mawr megis Tata Steel ar gyfer cynnal lefelau incwm ac felly lles economaidd canran sylweddol o boblogaeth CNPT.

Mae Gwerth Ychwanegol Gros (GVA) yn mesur y cyfraniad i economi cynhyrchydd, diwydiant, sector neu ranbarth unigol. Mae GVA CNPT yn is na chyfartaledd rhanbarthol Cymru, sy’n dangos nad yw buddsoddiad economaidd mor gryf yn CNPT â Chymru’n gyffredinol. Mae’n dda nodi serch hynny, y rhagamcenir bydd GVA CNPT yn cynyddu’n gyson tan 2030.

Yn 2016, y tâl wythnosol gros ar gyfer gweithiwr amser llawn sy’n byw yn CNPT oedd £480.80, y dylanwedir arno gan incwm o Tata Steel a diwydiannau cysylltiedig. Nid yw hyn yn cymharu’n ffafriol â chyfartaledd Cymru, sef £498.30. Yn CNPT, mae gwahaniaeth sylweddol rhwng enillion gweithwyr gwrywaidd a gweithwyr benywaidd. Er ymddengys mai hyn yw’r achos ledled Cymru, mae’r gwahaniaeth rhwng tâl wythnosol amser llawn dynion a menywod ar gyfartaledd yn fwy yn CNPT na Chymru gyfan.

Serch hynny, wrth ystyried enillion yn ôl lle mae gweithwyr yn byw, mae’n glir bod nifer mawr o’r bobl sy’n ennill cyflog da’n gweithio yn CNPT ond yn byw y tu allan i ffiniau’r sir. Mae hyn yn cael effaith andwyol ar greu incwm ar gyfer busnesau yn y fwrdeistref sirol..

MYNEGAI AMDDIFADEDD LLUOSOG CYMRU

Mae 91 o ardaloedd cynnyrch ehangach haen is (ACEHI) yn CNPT a 1,896 ar draws Cymru. Mae’r tablau isod yn dangos y nifer yn CNPT sydd yn y 10% mwyaf a lleiaf difreintiedig yng Nghymru yn 2005, 2008, 2011 a 2014, a’r safle cyfartalog ledled Cymru o holl ACEHI CNPT dan bob mesur ar gyfer pob blwyddyn.

Mae mynegai amddifadedd CNPT yn gwella, sy’n awgrymu bod y sir yn llai difreintiedig o’i chymharu â Chymru. Mae nifer yr ACEHI yn y 10% mwyaf difreintiedig yn gostwng.

Ym Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2014, roedd gan CNPT y gyfran uchaf o Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is yn y 50% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru (71.4%). Fel a nodwyd dan y golofn Cymdeithasol, ceir cyswllt cryf iawn rhwng amddifadedd a disgwyliad oes.

TLODI TANWYDD

Yn 2015, roedd rhwng 24.5% a 25.5% o aelwydydd yn CNPT yn dioddef tlodi tanwydd.

http://gov.wales/docs/caecd/research/2016/160711-production-estimated-levels-fuel-poverty-wales-2012-2016-en.pdf

CYFLOGAETH

Mae cynlluniau buddsoddi sylweddol ar waith yng nghanol y trefi e.e. dros £30m yn y Rhaglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid.

Yn y fwrdeistref sirol, nid oes oedolion mewn cyflogaeth mewn 5.5% o aelwydydd gyda phlant dibynnol. Mae hyn yn uwch na chyfartaledd Cymru, sef 4.6% o aelwydydd (Cyfrifiad 2011).

Mae heriau daearyddol wedi creu problemau mynediad rhwng ardaloedd gwledig a threfol ac o ganlyniad i hyn, effeithir ar allu rhai pobl o rai gymunedau i gael mynediad i gyfleoedd cyflogaeth. Mae pobl o’r rhannau hyn yn y fwrdeistref sirol, rhanbarthau’r cymoedd yn bennaf, yn fwy tebygol o fod yn ddi-waith neu’n gweithio mewn swyddi cyflog isel neu’n rhan-amser nag mewn ardaloedd eraill.

Mae’r amrywiaeth o alwedigaethau yn CNPT yn dangos bod y rhai a gyflogir fel rheolwyr a chyfarwyddwr, gweithwyr proffesiynol, galwedigaethau proffesiynol a thechnegol cysylltiedig yn is na chyfartaledd Cymru a’r Deyrnas Unedig, ond mae gweithredwyr canolfannau prosesu a pheiriannau yn y fwrdeistref sirol yn uwch na chyfartaledd Cymru.

Mae canran yr aelwydydd di-waith yn CNPT (25.9%) yn sylweddol uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol ar gyfer Cymru (18.3%). Serch hynny mae canran y bobl oedran gweithio sy’n hawlio Lwfans Ceisio Gwaith yr un peth â chanran Cymru.

Mae canran y plant sy’n byw mewn aelwyd di-waith yn sylweddol uwch na chanran Cymru a PF yn gyffredinol. Gallai hynny gael effaith tymor hir ar les economaidd cenedlaethau presennol a dyfodol preswylwyr CNPT.

Efallai nad yw pobl sydd wedi bod yn ddi-waith yn y tymor hir yn hyderus iawn neu efallai nad ydynt yn teimlo nad oes unrhyw beth y maent am ei wneud neu eisiau ei wneud, felly mae’n haws parhau i hawlio budd-daliadau. I bobl â phlant, gall cost gofal plant eu hatal rhag gweithio.

Mae gan CNPT fwy o ymadawyr ysgol Blwyddyn 13 nad ydynt mewn cyflogaeth amser llawn, addysg amser llawn neu hyfforddiant yn y gweithle na Chymru gyfan. Caiff y duedd hon ei hail-adrodd ar ben arall y sbectrwm cyflogaeth.

Er mwyn ysgogi twf yn yr economi, caniateir cymysgedd ehangach o ddefnydd yn y dyfodol ar safleoedd a glustnodir ac yn yr ardaloedd cyflogaeth presennol. Sefydlwyd Parth Menter Glannau Port Talbot ac mae’n cynnig amrywiaeth o fuddion economaidd, gweithlu a lleol i fusnesau.

Mae nifer sylweddol o fentrau bach a chanolig yn y fwrdeistref sirol ac felly mae darparu hyfforddiant sgiliau busnes a rheoli i gefnogi entrepreneuriaeth yn cael ei annog yn lleol.

Mae’r unedau busnes lleol a ddarperir gan CNPT yn llawn ac maent yn cael eu cydnabod fel dull llwyddiannus o annog a chefnogi diwydiant newydd yn y fwrdeistref sirol.

Mae gan fanwerthu ar draws y sir hierarchaeth sefydledig o ganol trefi, canolfannau ardal a chanolfannau lleol:

Mae CNPT yn cefnogi canolfannau manwerthu presennol ac maent yn ceisio diwallu anghenion preswylwyr lleol o ddydd i ddydd ac yn gweithredu fel ffocws i’r gymuned. Mae canol trefi Castell-nedd a Phort Talbot, Glannau’r Harbwr a Glyn-nedd wedi’u clustnodi ar gyfer datblygiadau manwerthu ac, er mwyn adfywio ardaloedd y cymoedd, bydd ymagwedd fwy hyblyg at geisiadau am siopau’n cael ei mabwysiadu. Dylid nodi, serch hynny, fod preswylwyr CNPT wedi mynegi eu dymuniad i gael siopau gwahanol ac unigryw gan fod canolfannau siopa’n dueddol o fod yr un peth ym mhob man.

ADDYSG A SGILIAU

Disgwylir i boblogaeth CNPT (16 i 64 oed) ostwng 5.7% erbyn 2030 gan arwain at fwlch sgiliau mwy yn y fwrdeistref sirol a disgwylir i’r boblogaeth dros 65 oed gynyddu 24.8% erbyn 2030. Bydd hyn yn arwain at ddibyniaeth economaidd gynyddol ar gyfer y grŵp poblogaeth hwn, mwy o alw am wasanaethau iechyd a gofal a straen ar feysydd cyflogaeth penodol megis y sector iechyd.

Ceir cysylltiad rhwng cymwysterau, cyfleoedd cyflogaeth, creu incwm ac, yn y pen draw, les economaidd a chymdeithasol.

PRESENOLDEB

Mae presenoldeb disgyblion oed cynradd wedi gostwng o 94.8% yn 2014-2015 i 94.5% yn 2015-2016.

Roedd presenoldeb oed uwchradd yn 2015 – 2016 yn 93.6%, yr un peth â’r flwyddyn flaenorol. Er gwaethaf hyn, cwympodd o’r 15fed safle i’r 18fed safle wrth i gyfartaledd Cymru gynyddu 0.3% i 94.2%.

GWAHARDDIADAU

Cynyddodd nifer y gwaharddiadau parhaol yn CNPT i 20 o 10 yn 2014-2015, yr oedd 19 ohonynt mewn ysgolion uwchradd. Mae CNPT yn parhau i fod ag un o’r cyfraddau uchaf o waharddiadau parhaol yng Nghymru.

Cynyddodd nifer y gwaharddiadau tymor penodol o 703 i 846 (20%) yn 2015-2016 gyda diwrnodau a gollwyd yn cynyddu 14% i 1,823.

CYRHAEDDIAD

Cwympodd perfformiad Lefel 1 CNPT (5 TGAU A*-G) ychydig yn 2016 o 96% i 95%.

Roedd canlyniadau A*-C yr holl arholiadau Lefel A yn 2016 wedi gwella o 73.5% i 74.9% gyda graddau A*/A yn cynyddu 4.1% i 19.9%, er bod hyn yn is na’r cyfartaledd cenedlaethol o 22.7%.

Mae CNPT yn cwympo islaw canrannau Cymru a’r DU ar gyfer yr ystod lawn o gymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol ac nid oes gan 15.5% o’r boblogaeth unrhyw gymwysterau.

Cwympodd y ganran o ymadawyr ysgol Blwyddyn 11 nad ydynt mewn addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth (NEET) yn sylweddol yn CNPT rhwng 2007 a 2012. Er i’r ffigur gynyddu eto yn 2013, mae wedi gostwng yn raddol bob blwyddyn, ond mae’n dal yn uwch na ffigur Cymru gyfan sef 2.8%.

Gall twf y cynlluniau prentisiaeth, gan gynnwys y Brentisiaeth Uwch, gynorthwyo gyda chyrchu hyfforddiant ac addysg i oedolion yn ogystal â chau’r bwlch cymwysterau a sgiliau rhwng CNPT a gweddill Cymru.

Wrth gymharu’n genedlaethol, roedd CNPT yn yr 21ain safle ar gyfer prydau ysgol am ddim o’r 22 o awdurdodau lleol yn ystod 2016. Yn aml, mae’r hawliad hwn yn mesur amodau cymdeithasol-economaidd poblogaeth ysgol. Dylid nodi, serch hynny, er bod cysylltiad rhwng hawlio PYDd a pherfformiad, bod llawer o ffactorau eraill yn effeithio ar berfformiad disgyblion (ffynhonnell: Adroddiad Blynyddol CBS Castell-nedd Port Talbot ar Berfformiad Disgyblion 2015/16)

ISADEILEDD A THECHNOLEG

Mae Llywodraeth y DU yn ariannu moderneiddio prif linell drenau Abertawe i Lundain, a dylai hyn gynorthwyo gyda symudiad gwell a chyflymach unigolion i mewn i’r fwrdeistref sirol, allan ohoni ac ynddi. Bydd hyn yn arwain at gyfleoedd cyflogaeth newydd i breswylwyr.

Nodwyd bod angen cysylltiadau cludiant gwell i ardaloedd y cymoedd ar gyfer cyfleoedd cyflogaeth ac i annog pobl i ymweld â’r cyfleusterau a’r gwasanaethau hyn. Mae cludiant cyhoeddus yn gyfyngedig iawn yn ystod y nos ac yn gynnar y bore, sy’n cyfyngu ar bobl yn cyrchu cyflogaeth, addysg, iechyd a chyfleusterau hamdden. Cafwyd buddsoddiad yn y blynyddoedd diwethaf i wella a chynyddu’r ddarpariaeth o lwybrau cerdded a beicio dynodedig gan gynnwys dwy ran ar Lwybr Arfordir Cymru, sy’n gyfanswm o dros 50km a sefydlu llwybrau beicio mynydd Cognation a llwybr y Great Dragon. Bydd datblygu rhwydweithiau beicio i gymudwyr hefyd yn gwella mynediad ar draws Castell-nedd Port Talbot.

Gallai technoleg ac arloesedd ddarparu ysgogwyr tymor hir ar gyfer twf economaidd ac amcangyfrifir erbyn 2020 y bydd gan holl breswylwyr CNPT fand eang cyflym iawn a bydd gan 50% o breswylwyr a busnesau fynediad i fand eang gwibgyswllt.

EIDDO’R CYNGOR

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn rheoli tua 220 o unedau mewn 11 lleoliad gwahanol. Mae’r unedau’n amrywio o 150 troedfedd sgwâr i 5,000 troedfedd sgwâr, ac maent yn addas ar gyfer busnesau newydd a rhai sydd wedi’u sefydlu. Yn ogystal, mae rhai ar gael sydd wedi’u cynllunio’n benodol ar gyfer pobl ifanc mewn busnes.

EIDDO PREIFAT

Mae hefyd amrywiaeth eang o eiddo diwydiannol a thir preifat yn CNPT, sy’n amrywio o 300 troedfedd sgwâr i dros 50,000 troedfedd sgwâr. Er enghraifft:

Mae Parc Ynni Baglan yn rhan o gam cyntaf Bae Baglan, y safle datblygu unigol mwyaf yn y DU, gan gynnwys 500 hectar. Y weledigaeth ar gyfer yr ardal hon yw datblygu parciau busnes a gweithgynhyrchu fesul cam ar dir dwysedd isel o safon sydd wedi’i dirlunio.

ndscape.

TIR/CYFLEOEDD DATBLYGU

Ceir detholiad da o safleoedd datblygu a chyfleoedd tir newydd sy’n cynnig cyfleusterau ardderchog a mynediad yn CNPT. Mae safleoedd allweddol yn cynnwys:

Parc Ynni Baglan

Mae’r parc busnes arobryn hwn, sydd eisoes yn gartref i GE Energy, Melin Bapur Intertissue a Chanolfan Arloesedd Bae Baglan yn amgylchedd o safon.

Ffordd yr Harbwr

Mae’r ffordd hon yn welliant strategol i’r briffordd am gost o £110 miliwn. Bydd yn cefnogi’r broses o adfywio Ystâd Ddiwydiannol Port Talbot ac ardal y dociau, gan wella mynediad i lan y môr a Pharc Ynni Baglan. Mae prosiect Glannau Harbwr Port Talbot yn cynnwys adfywio mwy na 100 erw o hen ardal ddociau’r dref. Bydd yn trawsnewid yr ardal i ganolfan fusnes newydd sy’n seiliedig ar wybodaeth, gan greu cannoedd o swyddi medrus.

Glan Môr Aberafan

Tair milltir o draeth tywodlyd gyda’r posibilrwydd o gyfleoedd datblygu hamdden, masnachol a defnydd cymysg. Ynghyd â hyn, mae cynllun adfywio Coridor Deheuol Afon Afan yn cynnwys ardal o oddeutu 300 hectar.

Harbwr Dŵr Dwfn Port Talbot

Un o’r cyfleusterau angori dyfnaf yn y byd. Potensial ar gyfer datblygu 30 hectar o dir ger yr harbwr, ardal â chysylltiadau rheilffordd sy’n agos i draffordd yr M4.

Coed Darcy

Datblygiad 400 hectar gwerth £1.2 biliwn yw Pentref Trefol Coed Darcy ar safle hen burfa olew BP. Bydd y datblygiad yn cynnwys pedair ysgol newydd, cyfleusterau iechyd a chwaraeon, canolfan gymunedol a siopau, ynghyd ag oddeutu 4,000 o gartrefi. Bydd ffordd gyswllt newydd yn gwasanaethu’r safle a bydd trafnidiaeth wyrdd yn thema allweddol. Cefnogir y datblygiad cynaliadwy hwn gan bartneriaeth sy’n cynnwys Sefydliad y Tywysog ar gyfer yr amgylchedd adeiledig.

Glyn-nedd – Yr A465

Mae tua 34 erw o dir ar gael ar gyfer datblygu masnachol, diwydiannol a defnydd cymysg. Mae’r ardal hon sydd ar Ffordd Blaenau’r Cymoedd, yn cynnig cysylltiadau ardderchog â chanolbarth Lloegr.

Porth Ffordd Fabian

Ar y brif ffordd i Fae Abertawe o briffordd yr M4. Mae’r safle 4 hectar hwn yn darparu cyfleoedd defnydd masnachol a datblygu cymysg. Y cwmni cyntaf i symud i’r safle yw’r manwerthwr byd-eang Amazon, gyda’i ganolfan ddosbarthu 800,000 troedfedd sgwâr a ddyluniwyd at y diben ar 33 erw.

TWRISTIAETH

Mae twristiaeth yn CNPT yn ddiwydiant sy’n tyfu, sy’n gwneud cyfraniad hanfodol a phwysig i’r economi leol gyda chynnydd blynyddol mewn twristiaeth. Yn 2015 yn unig daeth 1.53 miliwn o ymwelwyr i’r ardal, gan gyfrannu £110.13 miliwn at yr economi leol. Mae’r diwydiant twristiaeth hefyd yn darparu mwy na 1,583 o swyddi yn yr ardal. Cafwyd buddsoddiad sylweddol dros y blynyddoedd diweddar sy’n cryfhau’r isadeiledd ac yn gwella cyfleusterau.

Mae gan dwristiaeth yn CNPT gysylltiad cryf â’r amgylchedd naturiol a chryfderau diwylliannol y sir ac felly mae diogelu a datblygu lles amgylcheddol yn allweddol i wella lles economaidd y rhanbarth.

Buddsoddwyd yn benodol mewn llwybrau a chyfleusterau beicio mynydd ym Mharc Coedwig Afan, ac erbyn hyn, dyma un o’r ardaloedd sefydledig gorau yn y DU ar gyfer beicio mynydd. Yn benodol, mae buddsoddiad trwy brosiect llwybrau beicio de Cymru Cognation wedi cryfhau’r cynnig beicio mynydd ymhellach ar draws y rhanbarth, gan greu un o’r cyrchfannau beicio mynydd mwyaf cyffrous yn y byd.

 

YR HYN A DDYWEDOCH CHI AM LES ECONOMAIDD CNPT…

YSTYR LLES ECONOMAIDD YMATEBWYR AROLWG YN CNPT

FFACTORAU SY’N CYFRANNU AT LES ECONOMAIDD YMATEBWYR AROLWG YN CNPT

O bryder i iechyd meddwl unigolyn, roedd un o ddeg ymatebwr arolwg wedi nodi ‘straen’ neu ‘bryder’ wrth sôn am les economaidd, gan awgrymu efallai bod y ddau’n gysylltiedig. Yn wir, roedd unigolion yn y gweithdy wedi trafod bod dyled/pryderon ariannol yn agwedd ar les economaidd/ariannol.

Y ddau ffactor pwysicaf oedd wedi cyfrannu at les economaidd oedd cael swydd a safon byw dda. Roedd ychydig dros hanner y sampl (51%) wedi crybwyll ‘swydd’ – gan godi i ddau draean o’r sampl (66%) pan oedd geiriau cysylltiedig yn cael eu cynnwys. Dywedodd chwarter (26%) ‘safon byw’.

Pan y gofynnwyd iddynt am ddau beth a allai wella eu lles economaidd, nododd traean o ymatebwyr yr arolwg (36%) godiad cyflog. Roedd sylwadau eraill yn cyfeirio at ostyngiadau mewn costau byw er enghraifft:

“Byw fforddiadwy. Llai o filiau i’w talu” (ymatebydd yr arolwg)

I’r rhai hynny heb swydd, nid yw lles economaidd hawdd ei gael, oherwydd anabledd neu oherwydd bod yn rhaid iddynt ofalu am blant. Gwelwyd bod costau gofal plant yn niwtralu unrhyw gynnydd mewn incwm y gellid ei ennill drwy ddewis cyflogaeth dros hawlio budd-daliadau.

SUT BYDD TUEDDIADAU’R DYFODOL YN EFFEITHIO AR LES ECONOMAIDD?

Bydd y boblogaeth sy’n heneiddio’n dod â chyfleoedd cyflogaeth, yn arbennig yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol. Serch hynny bydd cost economaidd sylweddol ac effaith ar ddarparu gwasanaethau iechyd a chymdeithasol.

Dylai diweithdra barhau i ostwng, serch hynny mae’n annhebygol y bydd y gyfradd hon yn gostwng yn unol â chyfartaledd Cymru. Disgwylir i’r gostyngiad mewn cyflogaeth gweithgynhyrchu a diwydiannau barhau ond gallai datblygiadau newydd megis Campws Gwyddoniaeth ac Arloesedd Prifysgol Abertawe ac ailddatblygu Bae Baglan helpu i ysgogi gweithgareddau yn yr ardal.

Mae Morlyn Llanw Bae Abertawe yn brosiect ynni adnewyddadwy a fydd yn creu buddsoddiad sylweddol yn y diwydiannau hamdden a thwristiaeth yn ogystal â chreu cyfleoedd yn y sector adeiladu.

LAWRLWYTH PDFAU

Tel: 01639 763418

Tel: 01639 763418

Email: improvement@npt.gov.uk

Email: improvement@npt.gov.uk