Warning: "continue" targeting switch is equivalent to "break". Did you mean to use "continue 2"? in /home/wellbeingsite/FK268NZX/htdocs/wp-content/themes/Divi/includes/builder/functions.php on line 4766
Dyffryn Nedd | well-being Assessment

CWN NEDD

CYFLWYNIAD

Mae ardal gymunedol Cwm Nedd yn cynnwys adrannau etholiadol Glyn-nedd, Blaengwrach a Resolfen.

CANFYDDIADAU ALLWEDDOL O’N HYMARFERION CYNNWYS AC YMCHWIL:

CYMDEITHASOL

Diffiniad un ymatebwr i’r arolwg o les cymdeithasol oedd:

Ffactorau cyfrannol a nodwyd oedd bod yn iach ac yn heini a’r gallu i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol gyda ffrindiau. Teimlai ymatebwyr i’r arolwg y gellid datblygu lles trwy wella cludiant a chynyddu mynediad lleol i adloniant a gwasanaethau. Soniodd pobl hŷn am yr angen i fynychu grwpiau cymdeithasol, megis y rhai a gynhelir gan Age Connect, er mwyn cysylltu â phobl eraill a darparu ysgogiad meddyliol a chorfforol nad oedd ganddynt fel arall. Roedd ambell un yn pryderu am gynnal lleoedd cost-effeithiol ar gyfer cyfarfodydd ar adeg o gyni.

 

ECONOMAIDD

Yn ôl diffiniad ymatebwyr i’r arolwg o Gwm Nedd, lles economaidd yw bod â digon o arian i fyw a chynnal teulu, a bod a mynediad i gyflogaeth sicr. Roedd ffactorau a allai wella lles economaidd yn cynnwys rhagor o wasanaethau a chyfleusterau lleol, gwella cludiant cyhoeddus a chynyddu enillion.

Dengys gwybodaeth o’r cyfrifiad diwethaf (2011) y bu 5.8% o ddiweithdra yng Nghwm Nedd a bod 34.9% o’ rhai a oedd yn 16 oed ac y’n hŷn heb unrhyw gymwysterau, sy’n uwch na’r ffigur ar gyfer Cymru gyfan, sef 25.9%.

O’r 3,696 o gartrefi yn yr ardal, nodwyd bod 2,528 (68.4%) yn ddifreintiedig, gan ddefnyddio un neu fwy o’r 4 dimensiwn amddifadedd canlynol:

Cyflogaeth

Addysg

Iechyd/Anabledd

Gorboblogi mewn aelwydydd

AMGYLCHEDDOL

Mae’r ardal yn cynnwys cwm serth coediog iawn – planhigfeydd conwydd yn bennaf ond â pheth coetir hynafol. Mae’r ardal goediog yn cynnal amrywiaeth o rywogaethau prin a gwarchodedig gan gynnwys:

gylfingroes

gwalch Marthin

boda’r mêl

Mae’r ardal ar lannau afon Nedd, sydd o ansawdd dda’n gyffredinol, hefyd yn cynnal cynefinoedd pwysig, gan gynnwys coetir glan afon a hynafol ynghyd â dolydd llifwaddodol.

Mae gan Gwm Nedd dros 16 o ardaloedd leol sy’n llawn bywyd gwyllt, 3 Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig a 3 Gwarchodfa’r Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt. Dyma ardaloedd sydd wedi’u dewis am eu gwerth bioamrywiaeth lleol.

Mae’r amgylchedd naturiol yn cynnig cyfleoedd amwynder a hamdden, megis y rhaeadrau ym Melin-cwrt a Phontneddfechan a llwybrau fel Sarn Helen ar y grib uchel rhwng Cwm Nedd a Chwm Dulais, ynghyd â Llwybr Illtud Sant. Mae Camlas Nedd wedi cael ei hadfer i’r gogledd o Resolfen ac fe’i defnyddir ar gyfer caiacio a gweithgareddau hamdden anffurfiol.

Nid yw’n rhyfedd bod llifogydd wedi bod yn broblem yn y cwm. Mae cynlluniau llifogydd sylweddol wedi cael eu cwblhau yng Nglyn-nedd a Resolfen ond mae’r lle olaf yn parhau i fod yn un o’r deg cymuned yn ne-orllewin Cymru sydd yn y perygl mwyaf.

Yn ôl ymatebwyr i’r arolwg, lles amgylcheddol yw bod â chartrefi da, strydoedd glân a mynediad i fannau agored heb eu llygru. Fel mewn sawl ardal, roedd preswylwyr am gael mwy o gyfleusterau ailgylchu yn eu hardal nhw.

DIWYLLIANNOL

Yn ôl ymatebwyr i’r arolwg o’r ardal hon, lles diwylliannol yw trefnu digwyddiadau artistig neu gymdeithasol yn yr ardal neu gymryd rhan ynddynt.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn rheoli un llyfrgell yn yr ardal, sef yng Nglyn-nedd. Hefyd mae un llyfrgell a reolir gan y gymuned, sef yn Resolfen. Yn yr ardal, ceir 43 o adeiladau rhestredig a nifer o henebion, gyda’r mwyafrif ohonynt yng Nglyn-nedd.

Ar hyn o bryd mae 11 o leoedd chwarae yng Nghwm Nedd. Mae gan 10 o’r rhain gyfarpar chwarae sefydlog; mae 6 pharc yn cynnwys mannau gwyrdd (gan amrywio o ardaloedd amwynder anffurfiol i goetir) ac mae gan ddau o’r parciau ardal gemau amlddefnydd. Ceir nifer o gaeau rygbi a phêl-droed hefyd.

Mae safle hen felin wlân Glyn-nedd yn Ardal Gadwraeth gofrestredig ac mae Rheola’n Barc a Gardd Hanesyddol dynodedig. Yn ogystal, mae’r ardal yn cynnwys llawer  o kwybrau cerdded a beicio, sy’n galluogi mynediad i gefn gwlad. Mae’r ardal wedi cynnal Pencampwriaethau Rali’r Byd.

O ran y Gymraeg, mae 15.8% (1,317) o breswylwyr Cwm Nedd yn gallu siarad Cymraeg.

Mae nifer y bobl o grwpiau du a lleiafrifoedd ethnig yn ardal gymunedol Cwm Nedd yn fach, gan adlewyrchu’r sefyllfa gyffredinol ar draws y fwrdeistref sirol.

Dengys gwybodaeth o’r cyfrifiad ostyngiad yng nghanran y bobl a oedd yn disgrifio eu hunain yn Gristnogion, o 69% yn 2001 i 57% yn 2011. Yn ystod yr un cyfnod, bu cynnydd amlwg yn nifer y bobl a oedd yn nodi ‘dim crefydd’, o 21% i 34%.

Roedd pethau a fyddai’n gwella lles diwylliannol yn cynnwys rhagor o gyfleoedd chwaraeon ac amwynderau lleol gwell.

LAWRLWYTH PDFAU

Tel: 01639 763418

Tel: 01639 763418

Email: improvement@npt.gov.uk

Email: improvement@npt.gov.uk