Mae ardal gymunedol Cwm Dulais yn cynnwys adrannau etholiadol Onllwyn, Blaendulais a’r Creunant.
Mae’r ardal gymunedol, sy’n ffinio Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn y gogledd, yn cynnwys nifer o atyniadau megis:
Amgueddfa Cefn Coed
Canolfan hyfforddi DOVE a siop goffi
Mae gan Gwm Dulais sawl llwybr cerdded a beicio, coetiroedd a digonedd o fywyd gwyllt.
CANFYDDIADAU ALLWEDDOL O’N HYMARFERION CYNNWYS AC YMCHWIL:
CYMDEITHASOL
Yn ôl ymatebwyr i’r arolwg, roedd lles cymdeithasol yn ymwneud â chysylltu â phobl eraill trwy weithgareddau cymdeithasol, megis chwaraeon, corau a chyfarfodydd. O ran ffactorau cyfrannol pwysig ar gyfer lles cymdeithasol, soniwyd am gadw’n heini ac yn iach, gwirfoddoli a bod ag ymdeimlad o le yn y gymdeithas.
Roedd pobl am weld gwelliannau i fynediad i safleoedd ar gyfer pobl anabl, gyda gwasanaethau a sefydliadau i’w defnyddio gerllaw a ffordd well o roi gwybod am yr hyn sydd ar gael i alluogi pobl i gymryd rhan. Fel mewn mannau eraill, nodwyd bod cludiant cyhoeddus yn her i’r rhai nad oeddent yn gallu gyrru neu nad oedd car ganddynt.
ECONOMAIDD
Yn ôl ymatebwyr i’r arolwg o’r ardal, lles economaidd yw hunangynhaliaeth ariannol a’r gallu i gynnal eu hunain a’u teuluoedd.
Pwysleisiodd ymatebwyr hefyd bwysigrwydd darpariaeth gofal plant, cyrsiau addysgol i oedolion a thai fforddiadwy, gyda rhai’n mynegi pryder ynghylch effaith toriadau i wasanaethau a hawliadau budd-daliadau, a chynnydd yng nghost biliau cyfleustodau.
Dengys gwybodaeth o’r cyfrifiad diwethaf (2011) y bu 3.9% o ddiweithdra yng Nghwm Dulais a bod 34.9% o’r rhai a oedd yn 16 oed ac yn hŷn heb unrhyw gymwysterau, sy’n uwch na’r ffigur ar gyfer Cymru gyfan, sef 25.9%.
O’r 2,232 o gartrefi yn yr ardal, nodwyd bod 1,534 (68.7%) yn ddifreintiedig, gan ddefnyddio un neu fwy o’r 4 dimensiwn amddifadedd canlynol: cyflogaeth, addysg, iechyd/anabledd a gorboblogi mewn aelwydydd (Cyfrifiad 2011).
AMGYLCHEDDOL
Mae’r ardal yn cynnwys ucheldir gyda choedwigoedd conwydd, tir comin a ffermydd mynyddig.
Mae’r ardal yn tystio i’w dibyniaeth ar lo, gydag Amgueddfa Glofa Cefn Coed, safleoedd glo brig wedi’u hadfer a gweddillion tomenni glo.
Mae dros 21 o ardaloedd llawn bywyd gwyllt lleol a thri Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, gan gynnwys cynefinoedd pwysig megis glaswelltir corsiog.
Mae nifer o gynlluniau trydan dŵr sy’n darparu ynni adnewyddadwy wedi cael eu hadeiladu ar y brif afon, Dulais, yn ogystal â’i hisafonydd.
Nododd preswylwyr mai mynediad i fannau agored heb eu llygru oedd y prif ffactor sy’n cyfrannu at les amgylcheddol. Roedd hyn ymysg amrywiaeth eang o faterion, megis darparu sefydliadau i warchod rhywogaethau diamddiffyn, megis brith y gors.
O ran pethau a allai wella lles amgylcheddol, roedd ymatebwyr yn gofyn am:
ffynonellau tanwydd adnewyddadwy glân
rheoliadau amgylcheddol llymach ar gyfer adeiladau newydd
atal adeiladu ar fannau gwyrdd pan fo safleoedd tir llwyd ar gael
Roedd rhai ymatebwyr â phroblemau symudedd yn gofyn am fwy o gefnogaeth i fwynhau’r amgylchedd a gwasanaethau lleol.
DIWYLLIANNOL
Roedd diwylliant y gymuned yn arbennig o bwysig i les diwylliannol yn yr ardal, ynghyd â chyfleoedd ar gyfer addysg i oedolion, canu corawl, gwirfoddoli cymunedol, gweithgareddau crefyddol a chodi arian.
Mae Cwm Dulais yn cynnwys 13 o adeiladau rhestredig, gyda’r rhan fwyaf ohonynt yn y Creunant.
Mae 11 o barciau/lleoedd chwarae yn yr ardal ar hyd o bryd. Mae gan wyth o’r rhain gyfarpar chwarae sefydlog; mae gan bedwar ohonynt ardal gemau amlddefnydd. Mae Cwm Dulais yn cynnwys pedwar man gwyrdd, gan amrywio o ardaloedd amwynder anffurfiol i goetiroedd.
O ran y Gymraeg, mae 24.4% (1,156) o breswylwyr Cwm Dulais yn gallu siarad Cymraeg.
Mae nifer y bobl o grwpiau du a lleiafrifoedd ethnig yn ardal gymunedol Cwm Dulais yn fach, gan adlewyrchu’r sefyllfa gyffredinol ar draws y fwrdeistref sirol.
Dengys gwybodaeth o’r cyfrifiad ostyngiad yng nghanran y bobl a oedd yn disgrifio eu hunain yn Gristnogion, o 68% yn 2001 i 56% yn 2011. Yn ystod yr un cyfnod, bu cynnydd amlwg yn nifer y bobl a oedd yn nodi ‘dim crefydd’, o 21% i 34%.
Roedd ffactorau a allai wella lles yn cynnwys rhagor o gyfleoedd dysgu ar gyfer pobl anabl ac arian i ddod â’r gymuned ynghyd.
Tel: 01639 763418
Tel: 01639 763418
Email: improvement@npt.gov.uk
Email: improvement@npt.gov.uk