Warning: "continue" targeting switch is equivalent to "break". Did you mean to use "continue 2"? in /home/wellbeingsite/FK268NZX/htdocs/wp-content/themes/Divi/includes/builder/functions.php on line 4766
Dyffryn Aman | well-being Assessment

DYFFRYN AMAN

CYFLWYNIAD

Mae ardal gymunedol Dyffryn Aman yn cynnwys adrannau etholiadol Gwauncaegurwen a Brynaman Isaf.

Oherwydd ei leoliad, mae Dyffryn Aman wedi’i amgylchynu gan fryniau gyda nifer o hawliau tramwy sy’n rhoi mynediad i gefn gwlad yr ardal. Mae’r hen reilffordd sy’n mynd trwy’r ardal yn darparu coridor gwyrdd a chyfleuster hamdden pwysig.

CANFYDDIADAU ALLWEDDOL O’N HYMARFERION CYNNWYS AC YMCHWIL:

CYMDEITHASOL

Yn ôl ymatebwyr i’r arolwg:

cadw’n heini ac yn iach

gallu cymdeithasu ac ymarfer corff

chynnal cyfeillgarwch

chynhwysedd

Roedd gwelliannau posib mewn lles cymdeithasol yn canolbwyntio ar wella parciau a darparu lleoedd hamdden a chlybiau i blant.

ECONOMAIDD

Yn ôl ymatebwyr i’r arolwg yn Nyffryn Aman, roedd lles economaidd yn:

ymwneud â sefydlogrwydd ariannol tymor hir

cyflogaeth sicr

bod heb bryderon ariannol

Dengys gwybodaeth o’r cyfrifiad diwethaf (2011) y bu 4.8% o ddiweithdra yn Nyffryn Aman a bod 30.3% o’r rhai a oedd yn 16 oed ac yn hŷn heb unrhyw gymwysterau, sy’n uwch na ffigur Cymru gyfan, sef 25.9%.

O’r 1,820 o gartrefi yn yr ardal, nodwyd bod 1246 (68.5%) yn ddifreintiedig, gan ddefnyddio un neu fwy o’r 4 dimensiwn amddifadedd canlynol: cyflogaeth, addysg, iechyd/anabledd a gorboblogi mewn aelwydydd (Cyfrifiad 2011).

AMGYLCHEDDOL

Y cynefin mwyaf cyffredin yng Nghwm Tawe yw ucheldir agored, megis glaswelltir a gwlyptir asidig.  Mae’r cynefinoedd hyn yn cynnal rhywogaethau pwysig megis yr:

ehedydd

ysgyfarnog

lle ceir glaswelltir corsiog yn bennaf

Mae Dyffryn Aman yn cynnwys dros bum ardal leol llawn bywyd gwyllt ac un Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Dyma ardaloedd sydd wedi’u dewis am eu gwerth bioamrywiaeth lleol.

Yn ôl preswylwyr, mae lles amgylcheddol yn ymwneud â chynnal lleoedd hygyrch i’r gymuned, diogelu rhag llygredd a llifogydd a bod â mynediad hawdd i ailgylchu. Roedd y materion hyn hefyd yn cael eu hadlewyrchu mewn ffactorau sy’n cyfrannu at les, a nodwyd aer glân, rheoli llygredd a buddsoddi mewn mannau agored a mannau o ddiddordeb.

O ran gwelliannau amgylcheddol, soniwyd am ragor o fuddsoddiad a chysylltiadau cludiant gwell, yn ogystal â mynediad i ynni dibynadwy a fforddiadwy.

DIWYLLIANNOL

Yn Nyffryn Aman, roedd pwyslais cryf ar ddiwylliant sy’n ymwneud â threftadaeth, gwerthoedd a thraddodiadau Cymreig a sicrhau bod y rhain yn cael eu trosglwyddo i’r genhedlaeth nesaf trwy ddigwyddiadau diwylliannol.

Mae’r ardal yn cynnwys chwe adeilad rhestredig ac mae hefyd lyfrgell a reolir gan y gymuned yng Ngwauncaegurwen.

Mae chwe pharc/lle chwarae yn Nyffryn Aman ar hyn o bryd; mae gan bump o’r rhain gyfarpar chwarae sefydlog ac mae gan dri ohonynt ardal gemau amlddefnydd.

O ran y Gymraeg, mae gan Ddyffryn Aman y ganran uchaf o siaradwyr Cymraeg ar draws y fwrdeistref sirol, 57.3% (2,352). Roedd y cyfle i siarad Cymraeg hefyd yn cael ei gwerthfawrogi’n fawr gan breswylwyr y cwm.

Mae nifer y bobl o grwpiau du a lleiafrifoedd ethnig yn ardal gymunedol Dyffryn Aman yn fach, gan adlewyrchu’r sefyllfa gyffredinol ar draws y fwrdeistref sirol.

Dengys gwybodaeth o’r cyfrifiad ostyngiad yng nghanran y bobl a oedd yn disgrifio eu hunain yn Gristnogion, o 71% yn 2001 i 56% yn 2011. Yn ystod yr un cyfnod, bu cynnydd amlwg yn nifer y bobl a oedd yn nodi ‘dim crefydd’, o 20% i 35%.

LAWRLWYTH PDFAU

Tel: 01639 763418

Tel: 01639 763418

Email: improvement@npt.gov.uk

Email: improvement@npt.gov.uk