Mae ardal gymunedol Cwm Afan yn cynnwys adrannau etholiadol Pelenna, y Cymer, Glyncorrwg a Gwynfi.
Mae Cwm Afan wedi datblygu’n ardal ar gyfer gweithgareddau awyr agored, gyda llwybrau beicio mynydd o safon ryngwladol, llwybrau cerdded a llwybr beicio lefel isel ar hyd llawr y cwm.
CANFYDDIADAU ALLWEDDOL O’N HYMARFERION CYNNWYS AC YMCHWIL
CYMDEITHASOL
Cafodd lles cymdeithasol ei ddisgrifio gan ymatebwyr i’r arolwg yn nhermau hunaniaeth ac ymdeimlad o berthyn i gymuned, gyda chysylltiadau cryf â ffrindiau, cymdogion ac aelodau teulu y gellid dibynnu arnynt am gymorth.
Codwyd materion iechyd a gwasanaethau gofal iechyd gan nifer o’r ymatebwyr, gan gynnwys:
Rhestrau aros
Apwyntiadau wedi’u hoedi
Bwyta’n iach
Roedd rhai pobl yn cael lles cymdeithasol trwy eu gwaith a thrwy eu gweithgareddau hamdden. O ran gwelliannau i les cymdeithasol, roedd cydbwysedd gwaith/bywyd yn ffactor; nododd nifer o ymatebwyr fod cyfyngiadau amser yn un o’r pethau a oedd yn eu rhwystro rhag cymryd rhan mewn chwaraeon. Roedd costau chwaraeon a digwyddiadau hefyd yn broblem i rai ymatebwyr.
ECONOMAIDD
Yn ôl diffiniad ymatebwyr i’r arolwg, lles economaidd yw bod â digon o arian i fyw, a bod yn rhan o gymdeithas economaidd sefydlog.
Roedd ffactorau eraill sy’n effeithio ar ymdeimlad o les economaidd yn cynnwys:
cysylltedd o ran signal ffonau symudol a band eang
Prinder cyfleoedd cyflogaeth lleol
yn ogystal â byw mewn cymunedau heb reilffordd
Gofal plant
Dengys gwybodaeth o’r cyfrifiad diwethaf (2011) y bu 6.3% o ddiweithdra yng Nghwm Afan a bod 43.3% o bobl a oedd yn 16 oed neu’n hŷn heb unrhyw gymwysterau, sy’n sylweddol uwch na’r ffigur ar gyfer Cymru gyfan, sef 25.9%.
O’r 2,756 o gartrefi yn yr ardal, nodwyd bod 2,145 (77.8%) yn ddifreintiedig, gan ddefnyddio un neu fwy o’r 4 dimensiwn amddifadedd canlynol: cyflogaeth, addysg, iechyd/anabledd a gorboblogi mewn aelwydydd (Cyfrifiad 2011).
AMGYLCHEDDOL
Mae’r ardal yn cynnwys cymoedd â llethrau serth, gyda llawer ohoni’n blanhigfa gonwydd ar Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru.
Mae ansawdd dŵr yn y cwm wedi gwella’n fawr ond mae angen gwneud mwy o hyd, yn enwedig i fynd i’r afael â dyfroedd o byllau glo a chael gwared ar rwystrau artiffisial sy’n rhwystro mynediad i bysgod.
Mae’r ardal yn enwog am ei llwybrau beicio mynydd arbennig a thrwy gydol y broses gynnwys, cafodd amgylchedd naturiol a choedwig Cwm Afan eu hamlygu fel un o asedau mwyaf yr ardal. Mae Cwm Afan yn rhoi digon o gyfleoedd i fynd am dro, o’i chymharu ag ardaloedd eraill yn nes at goridor yr M4.
Roedd darparu mannau cyhoeddus diogel a glân yn bwysig i lawer o’r bobl yr ymgynghorwyd â hwy ac roedd agosrwydd at siopau a gwasanaethau lleol yn chwarae rôl allweddol. Hefyd roedd peth gwrthwynebiad i adeiladu ffermydd gwynt gerllaw.
DIWYLLIANNOL
Mae gan Gwm Afan ystod gyfoethog ac amrywiol o asedau treftadaeth adeiledig a diwylliannol, sy’n chwarae rôl hanfodol wrth greu ymdeimlad o le a hunaniaeth leol ar gyfer yr ardal.
Nododd pobl gyfeillgarwch y gymuned, gyda thrigolion yn cyfarch ei gilydd ac yn gwenu ar ei gilydd ar y stryd ac yn cynnal ymdeimlad o ddiogelwch cymunedol trwy gydgefnogi. Ystyrid bod cyffredinrwydd teuluoedd estynedig yn yr ardal yn hanfodol i hyn.
Amlygwyd bod chwarae rhan weithredol yn y gymuned yn bwysig i les diwylliannol. Ystyrid bod chwaraeon, yn enwedig pêl-droed a rygbi, yn hanfodol i les diwylliannol yr ardal, gan eu bod yn dod â phobl ynghyd ac yn annog ymarfer corff iach.
Cwm Afan yw man geni’r actor Richard Burton. Ceir delwedd maint go iawn o Burton ei hun yng Nghwm Afan, ar hyd y llwybr beicio lefel isel.
Mae amrywiaeth o gyfleusterau hamdden yn yr ardal gymunedol, gan gynnwys pwll nofio cymunedol a nifer o ganolfannau cymunedol. Mae Canolfan Gymdeithasol Blaengwynfi’n cynnwys ystafell snwcer, neuadd chwaraeon, ystafell codi pwysau ac ystafell iechyd. Mae Ysgol Gyfun Cymer Afan a’r ysgolion cynradd yn yr ardal yn ysgolion cymunedol sy’n galluogi’r gymuned leol i ddefnyddio rhai o’r cyfleusterau y tu allan i oriau ysgol.
Mae dwy lyfrgell a reolir gan y gymuned yng Ngwm Afan: un ym Mlaengwynfi a’r llall yn y Cymer. Ar hyn o bryd mae wyth parc/lle chwarae yn yr ardal. Mae pedwar o’r rhain yn cynnwys cyfarpar chwarae sefydlog, ac mae un yn cynnwys Ardal Gemau Amlddefnydd. Mae Cwm Afan hefyd yn cynnwys dau fan gwyrdd (sy’n gallu amrywio o ardaloedd amwynder anffurfiol i goetir). Mae’r ardal hefyd yn cynnwys caeau rygbi a phêl-droed, lawntiau bowls a chyrtiau tenis.
Mae gan Gwm Afan hefyd amgueddfa treftadaeth lofaol yng Nghanolfan Ymwelwyr Parc Coedwig Afan, sef Amgueddfa Glowyr De Cymru.
O ran y Gymraeg, dim ond 8.4% (521) o breswylwyr Cwm Afan sy’n gallu siarad Cymraeg; fodd bynnag, roedd rhai pobl yn y cwm yn cydnabod y dylid gwneud mwy i annog defnydd o’r Gymraeg yn y gymuned.
Yn debyg i ardaloedd eraill yn y fwrdeistref sirol, mae nifer y bobl o grwpiau du a lleiafrifoedd ethnig yn ardal gymunedol Cwm Afan yn fach, gan adlewyrchu’r sefyllfa gyffredinol ar draws y fwrdeistref sirol.
Dengys gwybodaeth o’r cyfrifiad ostyngiad yng nghanran y bobl a oedd yn disgrifio eu hunain yn Gristnogion, o 64% yn 2001 i 49% yn 2011. Yn ystod yr un cyfnod, bu cynnydd amlwg yn nifer y bobl a oedd yn nodi ‘dim crefydd’, o 23% i 42%.
O ran ffactorau sy’n cyfrannu at les diwylliannol, nodwyd y celfyddydau a diwylliant, a mynediad i amgueddfeydd a sinemâu. Amlygwyd diffyg darpariaeth cludiant cyhoeddus fel rhwystr sylweddol i les diwylliannol.
Tel: 01639 763418
Tel: 01639 763418
Email: improvement@npt.gov.uk
Email: improvement@npt.gov.uk