Mae ardal gymunedol Cwm Tawe’n cynnwys adrannau etholiadol Cwmllynfell, Ystalyfera a Godre’r-Graig.




CANFYDDIADAU ALLWEDDOL O’N HYMARFERION CYNNWYS AC YMCHWIL:



CYMDEITHASOL

Nodwyd bod gwasanaethau hygyrch ac addysg i bawb yn agweddau allweddol ar les cymdeithasol yng Nghwm Tawe, ynghyd ag iechyd da a bod yn ddigon heini i gwrdd â ffrindiau ac aelodau teulu. Ymysg pethau y teimlid eu bod yn cynnig cyfle i wella lles cymdeithasol roedd:


Sicrhau incwm gwell


Rheoli amser yn fwy effeithiol



ECONOMAIDD

Roedd agweddau at les ariannol ymhlith ymatebwyr i’r arolwg o Gwm Tawe’n amrywio o fod yn gallu talu biliau aelwyd i gynnal safon byw dderbyniol gyda swydd â chyflog da sy’n rhoi boddhad iddynt. Ystyrid mai’r ffactor pwysicaf sy’n cyfrannu at les yw cyflog da, a bod y pethau a allai wella lles yn cynnwys rheoli arian yn well a lleihau biliau cyfleustod.
Dengys gwybodaeth o’r cyfrifiad diwethaf (2011) y bu 4.1% o ddiweithdra yng Nghwm Nedd a bod 30.1% o’ rhai a oedd yn 16 oed ac yn hŷn heb unrhyw gymwysterau, sy’n uwch na ffigur Cymru gyfan, sef 25.9%.
O’r 2,573 o gartrefi yn yr ardal, nodwyd bod 1,780 (69.2%) yn ddifreintiedig, gan ddefnyddio un neu fwy o’r 4 dimensiwn amddifadedd canlynol: cyflogaeth, addysg, iechyd/anabledd a gorboblogi mewn aelwydydd (Cyfrifiad 2011).



AMGYLCHEDDOL

Y math mwyaf cyffredin o gynefin yng Nghwm Tawe yw ucheldir agored megis glaswelltir a chorsydd â llethrau sgri serth a rhostir.
Yn ôl ymatebwyr i’r arolwg, lles amgylcheddol oedd bod â mynediad i amgylchedd glân a diogel heb ei lygru. Ystyrid hefyd y sicrheir lles trwy deimlo’n gyfforddus o ran lle mae pobl yn byw, gyda mynediad i fannau agored at ddefnydd hamdden.
Ystyrid mai rhwystrau i les oedd:


Diffyg mynediad


Problemau gyda sbwriel


Llygredd
Mae’r ardal yn gartref i rywogaethau pwysig megis yr ehedydd a’r ysgyfarnog. Mae coridorau’r afonydd a llethrau’r cwm yn cynnal ardaloedd o goetir hynafol ac mae Camlas Tawe’n darparu cysylltedd cynefinoedd trwy’r ardal, gyda rhywogaethau allweddol fel y fursen fawr dywyll.
Mae dros naw ardal leol sy’n llawn bywyd gwyllt a dau Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, y mae Camlas Tawe’n un ohonynt. Dyma ardaloedd sydd wedi’u dewis am eu gwerth bioamrywiaeth lleol.



DIWYLLIANNOL



Mae ardal gymunedol Cwm Tawe’n cynnwys saith adeilad rhestredig a nifer o henebion. Mae dwy lyfrgell a reolir gan y gymuned yn y cwm: un yng Nghwmllynfell a’r llall yn Ystalyfera.


Ceir nifer o gyfleusterau chwaraeon yng Nghwm Tawe, megis lawnt fowlio, cyrtiau tenis, a chaeau pêl-droed a rygbi.


Rhoddodd ymatebwyr i’r arolwg ddiffiniadau amrywiol o les diwylliannol, gan gynnwys:


Chwaraeon


Celfyddydau a thraddodiadau


Darpariaeth addysg i oedolion a bod


â mynediad i sinemâu a theatrau


Roedd pwysigrwydd y Gymraeg yn thema gyson ac ystyrid bod cyfleoedd gwirfoddoli’n ffactorau cyfrannol pwysig ar gyfer lles diwylliannol. Mae gan yr ardal gyfan ganran uchel siaradwyr Cymraeg, sef 44.1% (2,481). Ar adeg llunio’r asesiad hwn, mae’r unig ysgol gyfun Gymraeg yn y fwrdeistref sirol i’w chael yng Nghwm Tawe yn Ystalyfera.


Mae nifer y bobl o grwpiau du a lleiafrifoedd ethnig yn ardal gymunedol Cwm Tawe’n fach, gan adlewyrchu’r sefyllfa gyffredinol ar draws y fwrdeistref sirol.


Dengys gwybodaeth o’r cyfrifiad ostyngiad yng nghanran y bobl a oedd yn disgrifio eu hunain yn Gristnogion, o 69% yn 2001 i 53% yn 2011. Yn ystod yr un cyfnod, bu cynnydd amlwg yn nifer y bobl a oedd yn nodi ‘dim crefydd’, o 20% i 37%.


O ran gwelliannau posib i les diwylliannol, roedd y preswylwyr am gael siop lyfrau/llyfrgell neu ganolfan ddiwylliannol i’w cymuned, ynghyd â chyfleoedd i gymryd rhan trwy wirfoddoli.


Tel: 01639 763418
Tel: 01639 763418

Email: improvement@npt.gov.uk
Email: improvement@npt.gov.uk