Warning: "continue" targeting switch is equivalent to "break". Did you mean to use "continue 2"? in /home/wellbeingsite/FK268NZX/htdocs/wp-content/themes/Divi/includes/builder/functions.php on line 4766
Diwylliant | well-being Assessment

DIWYLLIANNOL

BETH YW LLES DIWYLLIANNOL

Mae’r nod llesiant Cymru â diwylliant bywiog lle’r mae’r Gymraeg yn ffynnu a geir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn disgrifio Cymru fel:

Mae’r nod llesiant Cymru sy’n fwy cyfartal yn disgrifio Cymru fel:

Mae lles diwylliannol yn cyfrannu at gyflawni’r nodau hyn gan ei fod yn cwmpasu gwerthoedd, credoau a rennir, arferion, ymddygiad a hunaniaeth. Mae’r priodoleddau hyn sydd weithiau’n anniriaethol yn diffinio ac yn gwneud Castell-nedd Port Talbot (CNPT) y lle ydyw.

BETH YDYM YN EI WYBOD AR HYN O BRYD AM GYFLWR LLES DIWYLLIANNOL YN CNPT?

Ar hyn o bryd, mae mesurau cyfyngedig ar gael ar lefel genedlaethol i gefnogi asesiad o les diwylliannol. Fodd bynnag, mae nifer o fesurau yn cael eu datblygu a byddant ar gael o Arolwg Cenedlaethol Cymru.

Gellir dadansoddi lles diwylliannol fel 5 is-thema.

Y Celfyddydau a Threftadaeth

Y Gymraeg

Chwaraeon a Gweithgareddau Corfforol

Gwirfoddoli

Crefydd

Mae gan y term “lles diwylliannol” amrywiaeth o ystyron ymhlith pobl sy’n byw yn CNPT. Pan ofynnwyd i bobl am ystyr lles diwylliannol, dyma’r geiriau a grybwyllwyd fwyaf (125 o ymatebwyr i’n harolwg ar-lein).

Roedd 35 o bobl yn fwyaf tebygol o feddwl am y celfyddydau, y theatr, llenyddiaeth, amgueddfeydd, sinema, ffilmiau, barddoniaeth a hanes.
Crybwyllodd 29 o bobl dreftadaeth, iaith, traddodiadau a chredoau, arferion, Cymru/y Gymraeg.
Crybwyllodd 17 o bobl chwaraeon a hamdden.
Crybwyllodd 12 o bobl ddysgu ac addysg.

Pan ofynnwyd i bobl pa ddau beth a allai wella lefelau lles diwylliannol, dyma’r pethau a grybwyllwyd fwyaf (121 o ymatebwyr i’n harolwg ar-lein).

Crybwyllodd 24 o’r 121 o ymatebwyr brofi mwy o ddiwylliant Cymru a’r Gymraeg a chrybwyllodd 20 o 121 o ymatebwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol.

Y CELFYDDYDAU A THREFTADAETH

Yng Nghastell-nedd Port Talbot, mae nifer o grwpiau a lleoliadau sy’n hyrwyddo ac yn cyflwyno gweithgareddau sy’n gysylltiedig â’r celfyddydau, gan gynnwys y tair canolfan – Canolfan Celfyddydau Pontardawe, Theatr y Dywysoges Frenhinol a Neuadd Gwyn.

CANOLFAN CELFYDDYDAU PONTARDAWE

Adeiladwyd Canolfan Celfyddydau Pontardawe’n wreiddiol ym 1908 fel Neuadd Gyhoeddus a Sefydliad. Mae’r ganolfan yn ceisio gwella’r cynnig diwylliannol yng Nghastell-nedd Port Talbot drwy gyflwyno rhaglen gelfyddydol gytbwys, gan weithio mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru ac Asiantaeth Ffilm Cymru. Yn 2014, cynhaliodd Lles Cymru asesiad lles i ystyried y rôl y mae lleoliadau a mannau arddangos Cyngor Celfyddydau Cymru’n ei chwarae wrth hyrwyddo lles unigol a chymunedol. Dywedodd un o’r bobl a holwyd yn yr asesiad uchod, “mae’r adeilad hwn (Canolfan Celfyddydau Pontardawe) yn rhan fawr iawn o’r gymuned. Mae un yn cyd-fynd â’r llall”.

THEATR Y DYWYSOGES FRENHINOL

Mae Theatr y Dywysoges Frenhinol yng nghanol Port Talbot ac fe’i hagorwyd ym 1996. Mae’r theatr yn cynnig profiadau theatr fforddiadwy o safon i bobl Castell-nedd Port Talbot. Mae hefyd yn dod â refeniw i’r ardal drwy ddenu ymwelwyr o’r tu allan i’r fwrdeistref sirol.

Mae tri math penodol o weithgaredd:

 

Rhaglen theatr – sioeau proffesiynol sy’n cael eu comisiynu gan y theatr

Digwyddiadau/sioeau llogi preifat – cyfleusterau sydd ar gael i grwpiau cymunedol a busnesau a sefydliadau lleol i gynnal cynyrchiadau amatur, cynadleddau a seminarau

Llogi mewnol – ar gyfer cynadleddau a seminarau

NEUADD GWYN

Neuadd Gwyn yng nghanol tref Castell-nedd ac mae wedi bod yn rhan annatod o hanes Castell-nedd ers iddi gael ei hadeiladu ym 1887 a’i hailagor ym mis Mawrth 2012 ar ôl gwaith adnewyddu helaeth.

Mae’r neuadd ar agor saith niwrnod yr wythnos ac mae ganddi theatr â 393 o seddi sy’n cynnig rhaglen amrywiol, gan gynnwys cerddoriaeth at ddant pawb, theatr, sioeau i blant, theatr awyrol a dawnsio. Caiff hefyd ei defnyddio’n rheolaidd fel sinema dangosiad cyntaf sy’n dangos y ffilmiau diweddaraf ar ei phrif sgrîn yn ogystal â dangos y Theatr Genedlaethol yn Fyw a Bale’r Bolshoi, digwyddiadau sy’n hynod boblogaidd. Mae’r pod yn cynnig sgrîn sinema ddynodedig â 73 o seddi mewn amgylchedd moethus ac agos. Cynhelir amrywiaeth eang o ddosbarthiadau dawns a drama yn y stiwdio ddawns ddynodedig olau, fawr.

Er nad oes gennym ffigurau ar gyfer nifer y bobl sy’n cymryd rhan yn y celfyddydau yng Nghastell-nedd Port Talbot, na nifer yr ymwelwyr â’r ardal, mae’r canlynol yn darparu crynodeb o’r ymwelwyr â’r 3 lleoliad allweddol sy’n hyrwyddo’r celfyddydau yng Nghastell-nedd Port Talbot. Dengys y crynodeb gynnydd graddol yn y niferoedd a aeth i’r lleoliadau hynny yn ystod blynyddoedd ariannol 2013/2014, 2014/2015 a 2015/2016.

GWYLIAU A DIGWYDDIADAU CYMUNEDOL

Yn ogystal â’r tair prif ganolfan sy’n cyflwyno gweithgareddau sy’n gysylltiedig â’r celfyddydau yn CNPT, mae nifer y gwyliau a digwyddiadau cymunedol a gynhelir wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf. Mae’r enghreifftiau’n cynnwys Gŵyl Bwyd a Diod Castell-nedd, a ddechreuodd yn 2009; ers hynny mae wedi sefydlu’i hun yn un o’r prif ddigwyddiadau yng nghalendr y dref.

Mae Ffair Fedi Castell-nedd yn enghraifft arall – digwyddiad awyr agored hanesyddol blynyddol yng nghanol Castell-nedd.

CERDDORIAETH

Mae nifer o gorau yng Nghastell-nedd Port Talbot sy’n amrywio o gorau meibion i gorau menywod, Cymraeg a chymysg. Ceir hefyd nifer o fandiau sy’n perfformio’n fyw.

DAWNS A DRAMA

Ceir nifer o grwpiau dawns yn yr ardal a nifer o gymdeithasau actio amatur ac operatig ar draws y fwrdeistref sirol, gan gynnwys Cwmni Theatr Ieuenctid Gorllewin Morgannwg, theatr ieuenctid sy’n cynnig profiadau o berfformio i bobl ifanc rhwng 13 ac 21 oed yn ardal Gorllewin Morgannwg. Nod y gwaith yw ehangu gwybodaeth myfyrwyr am destun dramatig drwy ganolbwyntio ar gynyrchiadau ieuenctid ‘poblogaidd’, llai traddodiadol. Mae’r theatr ei hun yn falch o greu gwaith i amrywiaeth o leoliadau ar draws y siroedd, gan amrywio o ganolfannau’r celfyddydau i ysgolion a mannu awyr agored.

TREFTADAETH

Mae gan CNPT gyfoeth o asedau hanesyddol, archaeolegol a phensaernïol, yn enwedig o ran hanes diwydiannol yr ardal ym meysydd glo, haearn, dur a chopr. Mae gan yr ardal hefyd lawer o olion archaeolegol hŷn sy’n dyddio’n ôl cyn yr oes Rufeinig. Mae’r rhain i gyd yn nodweddion pwysig o’r ardal sy’n dangos natur leol arbennig. Mae Cynllun Datblygu Lleol 2011-2026 yn cynnwys nifer o amcanion sy’n cynnwys diogelu a gwella treftadaeth hanesyddol ac amgylchedd adeiledig y fwrdeistref sirol er mwyn parchu natur leol arbennig yr ardal.

Mae amrywiaeth o gyrchfannau sy’n cydnabod treftadaeth hanesyddol yr ardal a diogelir y rhan fwyaf ohonynt gan bolisïau cenedlaethol. Yn y fwrdeistref sirol, ceir y canlynol:

TREFTADAETH NATURIOL

Mae ardal CNPT wedi’i chysylltu’n draddodiadol â chymunedau diwydiannau trwm a mwyngloddio; fodd bynnag, mae amrywiaeth ac ansawdd bioamrywiaeth anghredadwy’n bodoli yma. Mae daeareg, daearyddiaeth a hydroleg y fwrdeistref sirol yn galluogi llawer o wasanaethau ecosystem pwysig i weithio a gwella ein bywydau. Rhai enghreifftiau:

Mawndiroedd a chorsydd – mae pridd mawn yn dal ac yn storio carbon deuocsid o’r atmosffer y gellir eu cynnal yn y pridd yn barhaol pan fo’r pridd mewn cyflwr da.

Morfa heli ar yr arfordir – sy’n helpu i wasgaru tonnau a llanwau uchel er mwyn atal llifogydd ac erydiad.

Mae’r cynefinoedd amrywiol hefyd yn cynnig cyfleoedd swyddi, yn enwedig yn y sector twristiaeth lle mae ardal CNPT yn adnabyddus am raeadrau, parciau gwledig, glan môr a gweithgareddau hamdden megis gwersylla moethus a beicio mynydd. Mae hygyrchedd yr adnoddau hyn ledled y fwrdeistref sirol yn darparu cyfleoedd i wella iechyd a lles, er enghraifft, cerdded a gweithgareddau awyr agored eraill.

Y GYMRAEG

Ddechrau’r 20fed ganrif, roedd bron hanner poblogaeth Cymru’n siarad Cymraeg. Fodd bynnag, mae canran y Cymry Cymraeg wedi lleihau drwy gydol yr 20fed ganrif ac roedd cyn lleied â 18.7% ym 1991. Er i’r nifer gynyddu i 20.8% yn 2001, yn bennaf o ganlyniad i’r cynnydd o ran addysgu Cymraeg fel ail iaith mewn ysgolion, mae ffigurau’r cyfrifiad diweddaraf (2011) yn awgrymu bod nifer y Cymry Cymraeg eto wedi lleihau, o 20.8% yn 2011 i 19% – gostyngiad o 1.8% (21,976).

Adlewyrchir hyn yn lleol lle cafwyd gostyngiad o 2.7% yn CNPT rhwng 2001 a 2011, o 18% (23,404) yn 2001 i 15.3% (20,698) yn 2011, sy’n cyfateb i 2,706 yn llai o Gymry Cymraeg. Serch hynny, roedd tueddiadau cadarnhaol o ran nifer y bobl ifanc sy’n gallu siarad Cymraeg. Roedd mwy o blant rhwng 3 a 4 oed (550) yn gallu siarad Cymraeg yn CNPT yn 2011 na 10 mlynedd ynghynt ac roedd mwy o bobl ifanc rhwng 16 a 19 oed (1,522) yn gallu siarad Cymraeg yn CNPT yn 2011 na 10 mlynedd ynghynt (1,424).

Mae gan bump o wyth ardal gymunedol CNPT ganran uwch o Gymry Cymraeg o’i gymharu â ffigur y fwrdeistref sirol, sef 15.3%.

Ceir ardaloedd yn y fwrdeistref sirol lle mae’r iaith yn rhan annatod o’r gymdeithas a lle ceir lefelau uchel iawn o Gymry Cymraeg. Dyffryn Aman a Chwm Tawe yw cadarnleoedd yr iaith, ac mae ardal Pontardawe a Chwm Dulais hefyd yn cynnwys cymunedau lle mae mwy o breswylwyr yn siarad yr iaith na chyfartaledd Cymru. Mae sgiliau Cymraeg ar eu gorau yng nghymunedau’r cymoedd hyn gyda chanran uchel o bobl sy’n gallu siarad, darllen ac ysgrifennu Cymraeg. Fodd bynnag, bu gostyngiad o ran canran a nifer y Cymry Cymraeg yn y cymunedau Cymraeg traddodiadol hyn rhwng 2001 a 2011.

Fel a nodir yn y tablau isod, mae’r ganran mewn rhai cymunedau megis Godre’r-Graig a Gwauncaegurwen wedi lleihau mwy na 10% o fewn degawd. Gellid dadlau mai’r ardal sy’n ymestyn o Drebannws i Gwmllynfell ac o’r Rhos i Wauncaegurwen yw’r un bwysicaf yn y fwrdeistref sirol o ran pwysigrwydd ieithyddol gan ei bod yn cynnwys rhai o’r canrannau uchaf o Gymry Cymraeg.

Mae gan addysg Gymraeg ddylanwad cryf ar fywiogrwydd yr iaith drwy ysgolion Cymraeg a thrwy ddosbarthiadau dysgu oedolion. Mae addysg Gymraeg yn rhan annatod a hanfodol o addysg yng Nghastell-nedd Port Talbot. Mae fersiwn ddrafft Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg (WESP) 2017-2020 yn cydnabod bod iaith a diwylliant yn rhannau allweddol o hunaniaeth unigolyn ac mae’n nodi sut mae’r cyngor yn bwriadu cefnogi a datblygu addysg Gymraeg ymhellach mewn ysgolion ac yn y cymunedau ehangach.

CHWARAEON A GWEITHGAREDDAU CORFFOROL

Yn ystod gwanwyn a haf 2015, cymerodd bron 1,000 o ysgolion ran yn Arolwg ar Chwaraeon Ysgol Chwaraeon Cymru, sef yr arolwg mwyaf o’i fath yn y DU. Dangosodd canlyniadau’r arolwg gynnydd yng nghanran y bobl ifanc sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgareddau corfforol deirgwaith neu fwy’r wythnos o 40% yn 2013 i 48% yn 2015.

Yn 2015, canran y plant a’r bobl ifanc (rhwng 3 ac 11 oed) a oedd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau o leiaf deirgwaith yr wythnos yn CNPT oedd 54.7%, a oedd yn uwch na’r ffigur cenedlaethol, sef 48%.

Yn 2015, roedd gan Gastell-nedd Port Talbot y ganran uchaf o ddisgyblion mewn blynyddoedd 3 i 11 a oedd wedi gwirioni ar chwaraeon, y ganran uchaf o ddisgyblion a oedd yn cymryd rhan yn aml mewn chwaraeon allgyrsiol, a’r aelodaeth uchaf o glybiau chwaraeon (63.3%) ymysg y 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru.

Dengys yr wybodaeth a gyflwynir yn y tabl isod fod cyfraddau cyfranogiad bechgyn ychydig yn uwch na chyfraddau cyfranogiad merched yn y ddau gategori oedran.

Arolwg Addysg Bellach:
Mae Chwaraeon Cymru hefyd yn cynnal yr Arolwg Addysg Bellach, sy’n canolbwyntio ar gyfranogiad mewn chwaraeon i fyfyrwyr dros 16 oed sydd mewn addysg bellach yng Nghymru. Yn 2015, roedd 44% o’r myfyrwyr oedd yn mynychu colegau Castell-nedd Port Talbot yn cymryd rhan mewn gweithgareddau o leiaf 3 gwaith yr wythnos o’i gymharu â ffigur Cymru, sef 49%.

Roedd cyfraddau cyfranogiad ymhlith y rhai rhwng 16 a 19 oed yn uwch (46%) nag ymhlith y rhai dros 20 oed, ac yn gyffredinol roedd cyfraddau cyfranogiad dynion (50%) yn tueddu i fod yn uwch na chyfraddau menywod (37%).

Arolwg AR Oedolion Egnial:
Yn ôl Arolwg ar Oedolion Egnïol 2014 (dros 15 oed), a gomisiynwyd gan Chwaraeon Cymru, roedd oedran, rhyw, anabledd a lefel incwm i gyd yn cael effaith ar gyfraddau cyfranogiad er bod lle rydych yn byw’n llai pwysig. Ar draws holl ranbarthau Cymru, roedd mwy o Gymry Cymraeg (45%) ‘wedi gwirioni ar chwaraeon’ na phobl ddi-Gymraeg (39%).

Mae’r tabl isod yn nodi bod llai o oedolion (dros 15 oed) yn cymryd rhan mewn gweithgareddau rheolaidd, yn cymryd rhan unwaith yr wythnos ac yn cymryd rhan deirgwaith yr wythnos neu fwy na chyfartaledd Cymru.

Mae Castell-nedd Port Talbot yn cynnal nifer o gyfleusterau chwaraeon a hamdden sy’n darparu ar gyfer pob oedran. O lwybrau beicio mynydd o’r radd flaenaf yng Nghwm Afan, y cwrs golff antur, y parc sglefrio, y pwll chwarae acwasblash a’r lle chwarae antur ar lan môr Aberafan, cyfleoedd marchogaeth ceffylau yn Nyffryn Aman ac amrywiaeth o lwybrau cerdded drwy goetiroedd, parciau ac ar hyd camlesi.

Mae 88% o’r mannau chwarae awyr agored yng Nghastell-nedd Port Talbot yn hygyrch i blant o bob gallu.

Mae caeau artiffisial hefyd yn gwneud cyfraniad allweddol at sicrhau bod pobl yn actif. Yng Nghastell-nedd Port Talbot, ceir dau gae 3G maint llawn (mewn caeau 3G, cefnogir y ‘glaswellt’ artiffisial gan haen denau o dywod ar y gwaelod a’i fewnlenwi â gronynnau rwber). Ceir hefyd bedwar cae artiffisial a lenwir â thywod neu ddŵr a 10 o gaeau artiffisial llai neu 5 cwrt 5-bob-ochr/carped.

Mae Hamdden Celtic yn rheoli nifer o ganolfannau hamdden ar draws y fwrdeistref sirol. Maent yn darparu amrywiaeth eang o wasanaethau, gan gynnwys dosbarthiadau ffitrwydd, ystafelloedd ffitrwydd ac iechyd, ystafelloedd pwysau, pyllau nofio, chwaraeon raced a chwaraeon tîm awyr agored sy’n addas i bob oedran a gallu.

 

Canolfan Hamdden a Ffitrwydd Aberafan

Canolfan Hamdden Castell-nedd

Canolfan Chwaraeon Castell-nedd

Canolfan Hamdden Pontardawe

Pwll Nofio Pontardawe

Canolfan Hamdden Cwm Nedd

CHWARAE DAN ORUCHWYLIAETH AR GYFER PLANT A PHOBL IFANC

Yng Nghastell-nedd Port Talbot, ceir 25 o glybiau ieuenctid, 12 o glybiau ar ôl ysgol, ac 1 clwb chwarae mynediad agored. Mae traean o’r lleoliadau chwarae dan oruchwyliaeth (gan gynnwys gofal plant) yn cynnig darpariaeth ddwyieithog. Mae O Gam i Gam, Interplay a’r Ganolfan Gweithgareddau Anghenion Arbennig yn darparu cyfleoedd i blant ag anableddau.

GWIRFODDOLI

Crybwyllwyd gwirfoddoli gan nifer o bobl a gymerodd ran yn yr ymarfer cynnwys fel ffactor a allai wella lles diwylliannol.

Ar hyn o bryd, mae oddeutu 52,000 o wirfoddolwyr ffurfiol yn CNPT ac mae’r math mwyaf cyffredin o wirfoddoli gyda sefydliad, gan helpu i gynnal popeth o weithgareddau i blant yn yr ysgol ac y tu allan iddi, i chwaraeon ac ymarfer corff, iechyd a gofal cymdeithasol, a grwpiau cymunedol a grwpiau ffydd. Nifer y gwirfoddolwyr anffurfiol yn CNPT ar hyn o bryd yw 71,168 a’r mathau mwyaf cyffredin o wirfoddoli anffurfiol yw gwneud cymwynasau, gofalu am blant, cadw mewn cysylltiad â pherson sy’n gaeth i’r tŷ, darparu cludiant a rhoi cyngor. Mae llawer o fathau eraill o wirfoddoli, gan gynnwys rhith-wirfoddoli, meicro-wirfoddoli, gwirfoddoli a gefnogir gan gyflogwyr, gwirfoddoli ar gyfer achrediad, interniaethau, gwirfoddoli fel profiad cysylltiedig â gwaith, a gwirfoddoli dinesig.

CYMUNED

Yn CNPT, crybwyllodd llawer o bobl a oedd yn bresennol yn y gweithdai cynnwys fod ymdeimlad o berthyn yn cyfrannu at les diwylliannol, a adlewyrchir yn y ffigurau isod:

YN CNPT:

 

%

Mae 92% o breswylwyr yn teimlo bod ganddynt ymdeimlad o berthyn i’r ardal leol, y ganran uchaf ymysg yr holl awdurdodau lleol yng Nghymru, sy’n uwch na ffigur Cymru, sef 82%.

%

Mae 82% o breswylwyr yn teimlo bod pobl o gefndiroedd gwahanol yn cyd-dynnu’n dda (sy’n uwch na ffigur Cymru, sef 79%), ac mae 86% o breswylwyr yn teimlo bod pobl yn yr ardal yn trin ei gilydd â pharch ac ystyriaeth o’i gymharu â ffigur Cymru, sef 79%.

CREFYDD

Yn CNPT, roedd canran y bobl a oedd yn nodi eu bod yn Gristnogion wedi lleihau o 72% yn 2001 i 58% yn 2011. Yn ystod yr un cyfnod, cafwyd cynnydd amlwg hefyd yng nghanran y bobl a oedd yn datgan ‘nad oedd unrhyw grefydd’ ganddynt, o 19% yn 2001 i 34% yn 2011. Mae hyn yn debyg i’r sefyllfa ar draws Cymru.

Cafodd y rhan fwyaf o bobl sy’n byw yng Nghymru eu geni yng Nghymru; mae’r nifer hwn yn lleihau’n araf dros amser ond mae’n debygol o effeithio ar ddiwylliant yn lleol. Yn CNPT, roedd canran y bobl a oedd wedi’u geni yng Nghymru wedi lleihau o 90% yn 2011 i 87% yn 2011.

SUT BYDD TUEDDIADAU’R DYFODOL YN
EFFEITHIO AR LES DIWYLLIANNOL?

Y CELFYDDYDAU A THREFTADAETH

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae swm y cyllid cyhoeddus ar gyfer y celfyddydau a gwasanaethau diwylliannol ar draws CNPT wedi lleihau a disgwylir i’r cyllid barhau i gael ei leihau neu o leiaf barhau’n sefydlog yn y tymor canolig.

Y GYMRAEG

Mae Polisi Cynllunio Cymru’n datgan y bydd lles yr iaith yn y dyfodol yn dibynnu ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys newidiadau demograffig a’r effaith negyddol y gall mewnfudo ac ymfudo eu cael ar y Gymraeg; er enghraifft, nododd Cyfrifiad 2011 y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod nifer y Cymry Cymraeg dros 75 oed wedi gostwng o 3,008 (25.4%) i 2,149 (17.6%) rhwng 2001 a 2011. Ynghyd â’r ffaith bod y genhedlaeth iau sy’n ymfudo o’r fwrdeistref sirol yn fwy tebygol o fod yn Gymry Cymraeg na’r bobl sy’n mewnfudo, gallai’r rhain fod yn ddangosyddion o ran pam roedd canran y Cymry Cymraeg yn CNPT wedi lleihau rhwng 2001 a 2011. Mae’n debygol o barhau i leihau yn y dyfodol oherwydd ffactorau sy’n cynnwys: diffyg trosglwyddo’r iaith yn y cartref; diffyg hyder defnyddwyr; priodasau ieithoedd cymysg; a mwy o farwolaethau na genedigaethau ymhlith teuluoedd Cymraeg.

GWIRFODDOLI

Mae nifer o heriau i wirfoddoli yn CNPT yn y dyfodol, gan gynnwys cyllid ar gyfer sefydliadau sy’n defnyddio gwirfoddolwyr (gan gynnwys darparu treuliau i wirfoddolwyr), argaeledd cyfleoedd a lleoliadau gwirfoddoli addas, mwy o alw gan gyrff corfforaethol mawr i’w staff eu hunain wirfoddoli, argaeledd y cymysgedd cywir o sgiliau, a gallu sefydliadau sy’n gweithio gyda gwirfoddolwyr i roi’r hyfforddiant angenrheidiol i wirfoddolwyr.

LAWRLWYTH PDFAU

Tel: 01639 763418

Tel: 01639 763418

Email: improvement@npt.gov.uk

Email: improvement@npt.gov.uk