

CHYMDEITHASOL

Mae nod llesiant Cymru Iachach yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn disgrifio Cymru fel a ganlyn:


Gall lles cymdeithasol gwmpasu fras bod yn iach ac yn ymwneud yn weithredol â bywyd ac â phobl eraill a chael y gallu i arfer rheolaeth dros y ffactorau hyn.
Gellir rhannu lles economaidd yn 5 is-thema:

Iechyd

Ffordd o Fyw

Diogelwch

Gofal cymdeithasol

Tai
PAN OFYNNOM BETH YW YSTYR LLES CYMDEITHASOL – DYMA’R GEIRIAU A GRYBWYLLWYD FWYAF:

PAN OFYNNOM BA DDAU BETH A ALLAI WELLA LEFELAU LLES CYMDEITHASOL – DYMA’R PETHAU A GRYBWYLLWYD FWYAF:aid:

Y ffactorau pwysicaf ar gyfer lles cymdeithasol oedd:

Cael rhwydwaith da o deulu a ffrindiau

Bod yn actif neu gadw’n heini (bod yn iach)

Bod yn hapus neu’n fodlon
Y ffactorau a fyddai’n gwella lles cymdeithasol mwyaf:

Cael mwy o amser i gymryd rhan mewn gweithgareddau a bod gyda theulu a ffrindiau

Gweithgareddau fforddiadwy


IECHYD

Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd:


Mae iechyd da’n elfen hanfodol o les a dylid ei weld fel adnodd neu ased sy’n ein helpu i fyw ein bywydau pob dydd. Mae’n rhoi’r gwydnwch corfforol ac emosiynol y mae ei angen arnom i ymdopi ag adegau anodd a byw bywydau bodlon.
DISGWYLIAD OES AC ANGHYDRADDOLDEBAU IECHYD
Mae disgwyliad oes yn mesur am sawl blwyddyn, ar gyfartaledd, y gall unigolion ddisgwyl byw ac mae disgwyliad oes iach yn mesur, ar gyfartaledd, am sawl blwyddyn yn y bywyd hwnnw y gellir disgwyl byw mewn iechyd da; gwelir y ddau fel dangosyddion o ba mor iach yw poblogaeth.
Gall llawer o ffactorau ddylanwadu ar iechyd poblogaeth, megis:


Rhywedd


Ffyrdd o fyw


Geneteg
Mae pobl yn CNPT yn byw’n hwy ac mae disgwyliad oes cyfartalog ar gyfer pobl sy’n byw yn y fwrdeistref bellach yn 77 o flynyddoedd i ddynion ac 81.2 o flynyddoedd i fenywod. Fodd bynnag, mae’r ffigurau hyn yn isel o’u cymharu â 78.3 ac 82.3 i ddynion a menywod yn ôl eu trefn ar draws Cymru ac mae hefyd amrywiad sylweddol o ran disgwyliad oes ar draws ardal y fwrdeistref sirol.
Mae pobl sy’n byw yn CNPT hefyd yn treulio mwy o flynyddoedd yn byw mewn iechyd da nag yn y gorffennol, gyda disgwyliadau oes iach o 61.9 o flynyddoedd i ddynion a 62.4 o flynyddoedd i fenywod. Eto, mae’r ffigurau hyn yn llawer is na chyfartaledd Cymru, sef 65.3 o flynyddoedd i ddynion a 66.7 o flynyddoedd i fenywod.
Y gwahaniaeth o ran disgwyliad oes rhwng dynion sy’n byw yn ardaloedd lleiaf difreintiedig a mwyaf difreintiedig CNPT yw 6.2 flynedd ac mae’r bwlch o ran disgwyliad oes iach hyd yn oed yn fwy, sef 16.9 mlynedd; fodd bynnag, yn wahanol i Gymru’n gyffredinol, mae’r bylchau hyn wedi lleihau’n amlwg ers cyfnod 2005-9.
Y gwahaniaeth o ran disgwyliad oes rhwng menywod sy’n byw yn ardaloedd lleiaf difreintiedig a mwyaf difreintiedig CNPT yw 7.4 blynedd, gyda bwlch o ran disgwyliad oes iach o 18.4 blynedd. Yn anffodus, mae’n ymddangos bod y bwlch rhwng menywod sy’n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig a lleiaf difreintiedig wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf. Mae tystiolaeth yn awgrymu bod hyn oherwydd nad yw menywod sy’n byw yn ardaloedd mwyaf difreintiedig CNPT wedi elwa o’r un gwelliannau o ran disgwyliad oes dros amser â dynion a menywod sy’n byw mewn ardaloedd llai difreintiedig.
IECHYD DA
Roedd dros dri chwarter (77.7%) o oedolion sy’n byw yn CNPT yn teimlo bod eu hiechyd naill ai’n dda neu’n dda iawn, sy’n debyg iawn i’r cyfartaledd ar draws Cymru (Cyfrifiad 2011).
CYFLYRAU TYMOR HIR NEU GRONIG
Mae cyflyrau ac afiechydon y credir eu bod yn cyfyngu ar ffordd person o fyw a’i allu i weithio, yn enwedig yn y tymor hir, yn fesur pwysig o iechyd cymuned.
Yn CNPT, mae 72% o oedolion oedran gweithio’n ystyried nad oes cyflwr tymor hir yn cyfyngu arnynt; mae hyn yn llawer is na chyfartaledd Cymru.
Yn ôl arolwg ar wahân, roedd pobl yn yr ardal leol yr oedd ganddynt gyflwr iechyd tymor hir hefyd yn llai tebygol o weithio na phobl â chyfyngiadau tebyg o ardaloedd eraill yng Nghymru. Roedd bwlch o 18% rhwng cyfraddau cyflogaeth pobl â chyflwr tymor hir a phobl heb gyflwr tymor hir yn CNPT, o’i gymharu â bwlch o 12% ar gyfartaledd ar draws Cymru.
Mae cyfran y boblogaeth a gofrestrir gyda meddyg teulu sy’n dioddef o amrywiaeth o gyflyrau cronig sylweddol ychydig yn uwch yn gyffredinol yn ardal CNPT o’i chymharu ag ardal y bwrdd iechyd lleol yn ei chyfanrwydd (sydd hefyd yn cynnwys Abertawe a Phen-y-bont ar Ogwr). Mae lefelau gorbwysedd a diabetes yn amlwg yn uwch na chyfartaledd y bwrdd iechyd.

IECHYD A LLES MEDDWL


Mae anhwylderau iechyd meddwl yn gyffredin iawn. Yng Nghymru, bydd 1 o bob 4 oedolyn yn dioddef o ryw fath o broblem neu salwch iechyd meddwl yn ystod ei fywyd, a bydd gan 2 o bob 100 o bobl salwch meddwl difrifol megis sgitsoffrenia neu anhwylder deubegwn (Law yn Llaw at Iechyd Meddwl, 2012).
Mae bod yn fodlon ar eich bywyd eich hun yn fesur pwysig o les meddwl, gan ystyried barn bersonol unigolyn am ei fywyd ei hun. Ymhlith oedolion oedran gweithio yn CNPT, roedd cyfran y bobl a oedd yn fodlon ar eu bywydau eu hunain (81.4%) yn agos at gyfartaledd Cymru (82%).
AROLWG ADDYSG BELLACH
Mae mynediad i wasanaethau gofal iechyd yn elfen bwysig iawn o gynnal poblogaeth iach a chynnal lles y bobl a all fod yn dioddef o salwch.
Mae lefelau defnyddio gwasanaethau gofal iechyd ymhlith oedolion yn CNPT yn debyg i’r lefelau ar draws ardal y bwrdd iechyd ac ar draws Cymru. Yn CNPT, roedd cyfran ychydig yn uwch o oedolion wedi siarad â’u meddyg teulu yn ystod y pythefnos diwethaf ac roedd cyfran ychydig yn uwch wedi mynd i adran damweiniau ac achosion brys yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Roedd llai o bobl yn CNPT wedi ymweld â’u deintydd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.


FFORDD O FYW

BLYNYDDOEDD CYNNAR A THEULUOEDD
Mae sicrhau iechyd da mamau ac amgylchedd gofalgar diogel i blant, yn ogystal â lleihau tlodi ac amddifadedd yn hanfodol ar gyfer dechrau da mewn bywyd. Yng Nghymru, mae profiadau andwyol yn ystod plentyndod, megis cam-drin plant a/neu fyw mewn aelwyd lle mae’r rhieni wedi gwahanu, neu lle ceir trais domestig, iechyd meddwl gwael, camddefnyddio alcohol neu gyffuriau, neu garcharu rhiant yn gysylltiedig â’r canlynol:

Dros hanner yr achosion o drais a chamddefnyddio cyffuriau

Dros draean yr achosion o feichiogi yn yr arddegau

Bron chwarter yr oedolion sy’n smygu ar hyn o bryd
Yn CNPT, mae 30% o blant yn byw mewn tlodi, sy’n fwy na chyfartaledd Cymru, sef 26%.
Nifer y plant sy’n derbyn gofal gan y gwasanaethau cymdeithasol yn CNPT yw 135 fesul 10,000 o blant dan 18 oed. Mae hyn wedi cynyddu’n sylweddol o 88 fesul 10,000 yn 2006.


BRECHIADAU AC IMIWNEIDDIO
Mae cyfraddau brechiadau mewn plentyndod yn CNPT yn uwch na’r 95% a argymhellir ar gyfer rhoi pob brechiad i fabanod dan un oed.
Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd, y ddau ymyriad ag iechyd y cyhoedd sydd wedi cael yr effaith fwyaf ar iechyd y byd yw dŵr glân a brechiadau. Mae brechiadau’n ffordd ddiogel ac effeithiol o sicrhau y diogelir y gymuned, yn enwedig babanod a phlant, yn erbyn clefydau.
Y targed ar gyfer defnyddio’r holl frechiadau plentyndod arfaethedig ar lefel byrddau iechyd yng Nghymru yw 95%.
Mae’r rhaglen brechiadau ffliw i blant yn cael ei chyflwyno’n raddol yng Nghymru.
Yn CNPT, cafodd 63.8% o bobl 65 oed ac yn hŷn y brechlyn ffliw. Mae hyn oddeutu 18,000 o oddeutu 29,000 o bobl yr oedd ganddynt yr hawl i gael y brechlyn. Mae hyn yn is na chyfartaledd Cymru (66.1%).
O’r 17,156 o bobl mewn grwpiau risg clinigol (megis y rhai â chyflyrau fel diabetes, clefyd y galon, clefydau anadlol) yr oedd ganddynt yr hawl i gael y brechlyn, roedd 7,609 o bobl yn unig wedi cael y brechiad (44.4%), a oedd yn is na chyfartaledd Cymru (46.2%).
O’r plant rhwng 2 a 3 oed yn CNPT, cafodd 43.4% y brechiad ffliw; mae hyn yn is na chyfartaledd Cymru, sef 44.9%. Fodd bynnag, dyma welliant mawr ar y llynedd; y ganran yn 2015-16 oedd 28%.


YMDDYGIAD
Mae tystiolaeth dda bod mabwysiadu pedwar ymddygiad iach neu fwy’n gallu lleihau risg diabetes 72%, clefydau fasgwlaidd 67%, dementia 64%, a chanser 35%, o gymharu’r bobl hynny â’r rhai sy’n mabwysiadu llai na dau ymddygiad iach.
Yn ardal PABM, mae 13% o bobl dros 16 oed yn mabwysiadu pedwar ymddygiad iach neu fwy.


GORDEWDRA PLANT
Mae plant gordew’n fwy tebygol o fod yn oedolion dros bwysau neu ordew. Gall plant gordew wynebu mwy o broblemau cymdeithasol ac emosiynol na phlant sydd â phwysau iach.
Mae data o’r arolwg poblogaeth diweddaraf yn 2014-2015 yn nodi bod canran ychydig yn uwch o blant yn CNPT dros bwysau (15.1%) o’i chymharu â’r ardaloedd cyfagos. Mae 11.8% o blant yn CNPT yn ordew.

Mae canran y babanod yn CNPT sy’n cael eu bwydo ar y fron yn unig 10 niwrnod ar ôl eu geni (32%) yn is o lawer na chanran Cymru (44%).


GORDEWDRA
Mae baich cynyddol gordewdra mewn oedolion yn bryder sylweddol i iechyd y cyhoedd. Mae’r cynnydd o ran deietau gwael ac anweithgarwch corfforol wedi arwain at gynnydd yn nifer y bobl sydd dros bwysau neu’n ordew.
Mae lefelau gordewdra yn CNPT wedi bod yn cynyddu dros y ddeng mlynedd diwethaf. Mae 26% o oedolion yn CNPT yn cael eu hystyried yn ordew. Mae hyn yn uwch o lawer na chyfartaledd Cymru (22%).
Yn yr un modd, mae nifer y bobl dros bwysau/ordew wedi cynyddu ac mae wedi bod yn uwch na chyfartaledd Cymru yn gyson. Mae 62% o oedolion yn CNPT yn cael eu hystyried dros bwysau/yn ordew o’i gymharu â chyfartaledd Cymru, sef 58%.
Ar y cyfraddau cynyddol presennol, rhagwelir y bydd cyfraddau gordewdra’n parhau i gynyddu yn y dyfodol a bydd oddeutu 72,000 o oedolion yn CNPT yn ordew erbyn 2035.


GWEITHGAREDDAU CORFFOROL
Nid yw digon o oedolion na phlant yn ddigon actif yn gorfforol i amddiffyn eu hiechyd. Er mwyn cadw’n iach, dylai oedolion geisio bod yn actif bob dydd a dylent wneud o leiaf 150 o funudau o ymarfer corff cymedrol (megis cerdded yn gyflym) bob wythnos, ac ymarferion cryfder sy’n gweithio’r holl gyhyrau pwysicaf ar ddau ddiwrnod yr wythnos neu fwy.
Mae gweithgareddau corfforol yn cyfrannu at les ac maent yn hanfodol ar gyfer iechyd da.
Nid yw 40% o oedolion yn CNPT yn actif yn gorfforol ar unrhyw ddiwrnod o’r wythnos. Mae hyn yn uwch o lawer na chyfartaledd Cymru (34%).
Dim ond 26% o oedolion yn CNPT sy’n actif yn gorfforol yn ôl yr argymhellion (5 niwrnod neu fwy’r wythnos). Mae hyn yn is na chyfartaledd Cymru (30%).
Mae oedolion yn CNPT yn actif yn gorfforol am 2.1 diwrnod yr wythnos.


BWYTA’N IACH
Mae deiet iach yn elfen bwysig o fyw’n iach. Mae Arolwg Iechyd Cymru’n cynnwys mesur o ddeiet iach a ddiffinnir fel bwyta pum dogn o ffrwythau a llysiau neu fwy’r diwrnod blaenorol.
Mae’n ymddangos bod arferion bwyta’n iach pobl yn CNPT yn dirywio. 27% yn unig o oedolion a ddywedodd eu bod wedi bwyta pum dogn o ffrwythau/lysiau’r diwrnod blaenorol. Mae hyn yn is na chanran Cymru (33%).
Erbyn tua 2025, rhagwelir y bydd arferion bwyta pobl yn dirywio hyd yn oed ymhellach ac ni fydd deiet oddeutu 13% o bobl yn ddigon iach i hybu eu hiechyd.


SMYGU
Mae smygu’n cyfrannu’n sylweddol at glefydau anadlol, gan gynnwys clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint a gwaethygu asthma, a sawl math o ganser.
Er bod cyfraddau smygu’n cwympo yng Nghastell-nedd Port Talbot, mae 21% o oedolion yn y sir yn dal i smygu. Mae hyn yn uwch na nifer cyfartalog y smygwyr yn y siroedd cyfagos (18% ym Mhen-y-bont ar Ogwr, 17% yn Abertawe) ac yng Nghymru’n gyffredinol (20%).


DEFNYDDIO A CHAMDDEFNYDDIO ALCOHOL
Mae cysylltiad rhwng alcohol a llawer o broblemau iechyd cronig, gan gynnwys salwch meddwl, yn ogystal â phroblemau cymdeithasol megis troseddu, ymosodiadau a thrais domestig.
O boblogaeth CNPT, mae 13% yn sôn am ddefnydd trwm iawn o alcohol ar ddiwrnod yn ystod yr wythnos ddiwethaf (14% yng Nghymru), gyda 23% yn sôn am byliau (trwm) o oryfed (25% yng Nghymru). Mae yfed yn drwm yn cynyddu risg diweithdra ac yn cyfrannu at ddiwrnodau gwaith a gollir oherwydd absenoldeb o’r gwaith, colli swyddi a llai o gyfleoedd cyflogaeth.
Er ei bod yn ymddangos bod yfed mwy o alcohol na’r argymhellion wedi cwympo ar draws CNPT dros y pum mlynedd diwethaf, mae 36% o’r boblogaeth yn CNPT yn yfed mwy na’r lefel argymelledig. Mae hyn yn is na chanran Cymru (41%).
Mae nifer y bobl sy’n mynd i’r ysbyty o ganlyniad i alcohol ychydig yn uwch yn CNPT na chyfartaledd Cymru.
Mae mwy o farwolaethau sy’n ymwneud ag alcohol yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig.


CAMDDEFNYDDIO SYLWEDDAU
Oherwydd natur anghyfreithlon a/neu gudd llawer o’r achosion o gamddefnyddio sylweddau a geir mewn cymdeithas, mae’n anodd mesur pa mor gyffredin ydyw ymhlith y boblogaeth.
Mae Cronfa Ddata Genedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau’n rhoi manylion cyfraddau atgyfeiriadau i wasanaethau triniaeth yng Nghymru.
Yn 2014-15, roedd 2,004 o atgyfeiriadau yn CNPT pan mai cyffuriau ac/neu alcohol oedd y brif broblem.
Menywod oedd 737 o’r rhain, gyda’r rhan fwyaf yn ddynion (1,267).
Oedran cyfartalog yr unigolion a atgyfeiriwyd oedd 41 oed.
Roedd 64% o’r bobl a oedd yn camddefnyddio sylweddau hefyd yn cael problemau cyflogaeth ac nid oeddent yn gweithio.
Roedd gan 7% broblemau tai ac roedd 33% yn dioddef o broblemau iechyd meddwl.
Rhwng mis Tachwedd 2015 a mis Hydref 2016, roedd 27 o orddosau nad oeddent yn angheuol a 10 o orddosau angheuol.
Roedd cyfradd y bobl a aeth i’r ysbyty ar ôl cael eu gwenwyno gan gyffur anghyfreithlon hysbys yng Nghastell-nedd Port Talbot (143 fesul 1,000 o bobl) 19.2% uwchben cyfradd safonedig yn ôl oed Cymru ar gyfer 2014-15.
Mae cyfradd safonedig yn ôl oed y bobl a aeth i’r ysbyty wedi cynyddu 13.5% yn CNPT dros y pum mlynedd diwethaf.
Cyfradd safonedig yn ôl oed a aeth i’r ysbyty ar ôl cael eu gwenwyno gan gyffur anghyfreithlon hysbys, 2010-11 i 2014-15, ardaloedd daearyddol dethol. Ffynhonnell: Cronfa Ddata Cyfnodau Gofal Cleifion Cymru, Rhaglen Camddefnyddio Sylweddau, Iechyd Cyhoeddus Cymru



DIOGELWCH

Cysyniad pellgyrhaeddol sy’n cynnwys llawer o syniadau cyfarwydd megis:


Troseddu


Tân


Achub


Diogelwch cludiant
Gall byw mewn ardal sy’n anniogel, neu y credir ei bod yn anniogel, gael effaith negyddol ar les.
Mae Castell-nedd Port Talbot yn cynnwys amrywiaeth eang ac amrywiol o risgiau i ddiogelwch, gan gynnwys safleoedd diwydiannol megis Tata Steel, BOC, Vale Inco, gwaith ynni biomas mwyaf y DU a melin bapur 320,000 metr2 Intertissue. Ynghyd â hyn, mae gan CNPT hefyd harbwr dŵr dwfn a dyfrffyrdd arfordirol a mewndirol niferus, traffordd yr M4, cysylltiadau rheilffordd cyflym a choedwigoedd helaeth – mae’r rhain i gyd yn peri heriau diogelwch ac asedau lles.


DIOGELWCH CYMUNEDOL A THROSEDDU
Mae troseddu, yn ganfyddedig ac yn wirioneddol, yn elfen bwysig o ddiogelwch cymunedol a gall gyfrannu’n sylweddol at sut mae unigolion yn teimlo am eu cymuned, yn ogystal â’u lles personol.
Yn ardal CNPT, dywedodd 79% o bobl eu bod yn teimlo’n ddiogel wrth gerdded o gwmpas eu hardal leol ar ôl iddi dywyllu; cynyddodd y ganran i 94% o bobl sy’n teimlo eu bod yn ddiogel yn eu cartref ar ôl iddi dywyllu.
Mae cyfradd y troseddau yr adroddir amdanynt yn ardal CNPT yn amlwg yn uwch na chyfradd gyfartalog Cymru.
Gofynnodd Arolwg Cwmpas y Comisiynydd Troseddu ar gyfer 2016-17 i breswylwyr CNPT am eu barn ar y problemau mwyaf sy’n gysylltiedig â throseddu yn eu hardal; traffig oedd y pwnc a grybwyllwyd fwyaf, ac roedd cryn sôn hefyd am sbwriel a gwastraff, a chyffuriau ac alcohol.
Mae adroddiad Castell-nedd Port Talbot Mwy Diogel, adroddiad perfformiad chwarterol Heddlu De Cymru, yn cymharu nifer y troseddau yr adroddwyd amdanynt yn yr ardal yn ystod y cyfnod rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2015 â nifer y troseddau yr adroddwyd amdanynt yn ystod yr un cyfnod yn 2016.
Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at y ffaith bod 748 o achosion o drais yn erbyn y person yn ystod y cyfnod 3 mis yn 2016, o’i gymharu â 652 o achosion yn ystod yr un cyfnod yn 2015. Fodd bynnag, lleihaodd nifer y rhain yr adroddwyd amdanynt fel rhai domestig o 288 yn 2015 i 265 yn 2016.
Yn ystod yr un cyfnod, cofnodwyd 35 o droseddau casineb yn 2016 – mae hyn yn uwch o lawer na’r 14 o achosion a gofnodwyd yn ystod yr un cyfnod y flwyddyn flaenorol. Yn ystod y ddwy flynedd, roedd y rhan fwyaf o’r rhain yn droseddau hiliol.
Roedd gostyngiad sylweddol yn nifer y byrgleriaethau domestig yr adroddwyd amdanynt yn ystod y cyfnod rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2016 o’i gymharu â’r un cyfnod y flwyddyn flaenorol (58 o’i gymharu â 130).
Dros yr un cyfnodau, mae’n ymddangos bod gostyngiad bach yn nifer yr achosion o fasnachu cyffuriau yr adroddwyd amdanynt (13 rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2015 o’i gymharu ag 11 rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2016), ond mae cynnydd bach yn nifer y troseddau meddiant (61 rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2015 o’i gymharu â 70 rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2016.


Tân ac achub
Mae Castell-nedd Port Talbot yn cynnwys amrywiaeth eang ac amrywiol o risgiau i ddiogelwch, gan Mae tanau, damweiniau traffig ffyrdd a digwyddiadau tebyg eraill yn drychinebau anrhagweledig a all arwain at anafiadau difrifol a marwolaethau, yn ogystal â dinistrio cartrefi, busnesau, cymunedau a’r amgylchedd naturiol yn ffisegol.

Ar draws CNPT, yn ystod y cyfnod 2013-16, roedd 5,664 o ddigwyddiadau a oedd yn ymwneud â’r Gwasanaethau Tân ac Achub, gan gynnwys 696 o danau mewn eiddo, 461 o ddamweiniau traffig ffyrdd ac 813 o alwadau am wasanaethau arbennig.
Yn ystod y digwyddiadau hyn, roedd angen i 322 o unigolion fynd i’r ysbyty ac anafwyd 523 o bobl eraill ond heb fod angen triniaeth ysbyty arnynt; gwaetha’r modd, bu farw 26 o unigolion. Damweiniau traffig ffyrdd oedd prif achos anafiadau o bell ffordd.
Er mwyn helpu i leihau’r ffigurau hyn, o 2013, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a’i bartneriaid niferus wedi cyflawni dros 20,000 o wiriadau diogelwch tân cartref ac ers 2016 mae llawer o gymunedau yn CNPT wedi derbyn gwiriad diogelwch cartref newydd, a gefnogir gan amrywiaeth eang o bartneriaid yn ardal CNPT, sy’n cynnwys cyngor ar ddiogelwch, gan gynnwys ymwybyddiaeth o lifogydd, atal troseddu, achosion o lithro, baglu a chwympo, a rhoi’r gorau i smygu mewn ymgais i wella lles y preswylydd yn gyffredinol. Mae addysg ysgolion a gwaith partneriaeth amlasiantaeth ar ddiogelwch ffyrdd a thanau glaswellt yn parhau ar draws y sir.


Diogelwch Trafnidiaeth
Mae ystadegau Llywodraeth Cymru’n awgrymu bod nifer y bobl sydd wedi’u lladd neu eu hanafu’n ddifrifol ar ffyrdd yn ardal CNPT wedi cynyddu ers 2012.
Yn 2014, cafodd 40 o bobl eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol ar ffyrdd yn ardal CNPT, a dioddefodd 284 o bobl anafiadau llai difrifol. O’r rhain, cafodd 8 cerddwr a 7 beiciwr pedal eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol, a dioddefodd 26 o gerddwyr ac 16 o feicwyr anafiadau eraill.
Mae lleiafrif o ddamweiniau traffig ffyrdd yn ymwneud â gyrwyr lle ceir prawf anadl positif am alcohol. Yn ardal CNPT, mae canran y gyrwyr sy’n cael canlyniad positif mewn prawf anadl wedi lleihau ychydig, o 5.1% yn 2012 i 2.4% yn 2014.


DIOGELWCH DIGIDOL
Roedd gan 77% o aelwydydd yn CNPT fynediad i’r rhyngrwyd yn 2014-15, er ei fod yn debygol bod y ffigur hwn yn cynyddu’n gyflym.


TAI

Y prif fath o ddeiliadaeth tai yn CNPT yw’r perchennog-preswylydd o hyd. Erbyn 2036, rhagamcenir y bydd cyfanswm yr aelwydydd yn CNPT yn cynyddu 6,247 a rhagamcenir y bydd aelwydydd person sengl yn cynyddu 18.2%. Ond ar gyfer pobl dros 65 oed, rhagwelir y bydd nifer yr aelwydydd person sengl yn cynyddu 31.2% erbyn 2035.
SUT BYDD TUEDDIADAU’R DYFODOL YN EFFEITHIO AR LES CYMDEITHASOL?
Drwy ddefnyddio cyfraddau cyffredinrwydd Arolwg Iechyd Cymru 2014 a swm disgwyliedig y boblogaeth yn 2035, gan ragdybio na fydd unrhyw newid i’r cyfraddau cyffredinrwydd, gellir gwneud y rhagamcamiadau gofalus canlynol:
Rhagamcenir y bydd nifer yr oedolion gordew yn CNPT yn cynyddu bron 2,000 (2.7%) i oddeutu 72,000 erbyn 2035.
Rhagamcenir y bydd nifer yr oedolion â diabetes ar draws CNPT yn cynyddu bron 300 rhwng 2015 a 2035 i 10,387.
Rhagamcenir y bydd nifer yr oedolion yn CNPT sy’n derbyn gwasanaethau yn y gymuned yn cynyddu oddeutu 1,500 (33%) rhwng 2015 a 2035.
Dywedodd 28% o boblogaeth CNPT fod problemau iechyd tymor hir neu anabledd yn cyfyngu ar eu gweithgareddau o ddydd i ddydd; dyma’r gyfradd uchaf yng Nghymru.
Rhagwelir y bydd cyfran yr oedolion sy’n bwyta’n iach (5 dogn o ffrwythau a llysiau neu fwy y diwrnod) yn lleihau o 27% yn 2014 i 13% yn 2025.
Rhagamcenir y bydd nifer y bobl dros 75 oed â salwch cyfyngol tymor hir yn CNPT yn cynyddu o 5,461 yn 2015 i 8,947 erbyn 2035 – sef 63% yn fwy.
Rhagamcenir y bydd nifer y bobl dros 65 oed yn CNPT nad ydynt yn gallu cyflawni o leiaf un gweithgaredd symudedd ar eu pennau eu hunain yn cynyddu 50% erbyn 2035. Rhagwelir y bydd problemau ymataliaeth yn cynyddu 41% a bydd y nifer y mae angen cefnogaeth arnynt i gyflawni tasgau cartref a rheoli eu gofal eu hunain yn cynyddu 46%. Mae’r cynnydd mwyaf ymhlith pobl dros 80 oed.
Rhagwelir y bydd dros 17,000 o bobl dros 65 oed yn byw ar eu pennau eu hunain yn ardal CNPT, gan gynyddu 33%.
Erbyn 2036, rhagamcenir y bydd cyfanswm yr aelwydydd yn CNPT yn cynyddu 6,247.


Tel: 01639 763418
Tel: 01639 763418

Email: improvement@npt.gov.uk
Email: improvement@npt.gov.uk