
BETH YW’R ASESIAD LLESIANT?

Er mwyn cwrdd â’r gofynion statudol sydd o fewn Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Castell-nedd Port Talbot wedi paratoi asesiad drafft o lesiant yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Mae’r wefan yma wedi ei ddylunio i ddarparu disgrifiad o lefel uchel.
Mae yna dair haen i’r Asesiad Llesiant hwn:
Mae’r casgliad yma o dudalennu gwe wedi eu dylunio i ddarparu disgrifiad o lefel uchel, gan dynnu allan y pwyntiau allweddol sy’n disgrifio llesiant yn yr holl ardal a phob un o’r wyth ardal cymuned.
Bydd casgliad o PDFau y gallwch eu lawrlwytho yn darparu disgrifiad mwy manwl o’r pedwar piler llesiant: diwylliannol, cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd ar gyfer holl Gastell-nedd Port Talbot a’r wyth ardal cymuned (gweler yr adran ‘Lawr lwytho PDFau’ isod).
Haen dechnegol o dystiolaeth ffynhonnell a ddefnyddiwyd i gynnal yr asesiad llesiant. Yn ystod y cyfnod ymgynghori mae’r dogfennau technegol yma ar gael os ydych yn gofyn amdanynt.
CYFLWYNIAD I YSTYR A BWRIAD Y DDEDDF:


METHODOLEG

Mae’r Ddeddf yn mynegi beth mae’n rhaid i Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Castell-nedd Port Talbot wneud wrth baratoi’r asesiad:
Mynegi pa gymunedau sy wedi eu cynnwys o fewn Castell-nedd Port Talbot


Dadansoddi’r cyflwr llesiant ym mhob cymuned a Chastell-nedd Port Talbot i gyd


Dadansoddi cyflwr llesiant y bobl o fewn Castell-nedd Port Talbot


Cynnwys unrhyw ddadansoddiad pellach mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn cynnal ar gyfer asesu llesiant Castell-nedd Port Talbot





Cynnwys rhagfynegiadau tueddiadau tebygol y dyfodol o fewn Castell-nedd Port Talbot


Cyfeirio at Ddangosyddion Cenedlaethol a roir gan Lywodraeth Cymru


Cynnwys unrhyw ddata a gwybodaeth ddadansoddol berthnasol arall mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn ystyried yn briodol
Ardaloedd Lleol

LAWRLWYTH PDFAU

Cyflwyniad



Tel: 01639 763418
Tel: 01639 763418

Email: improvement@npt.gov.uk
Email: improvement@npt.gov.uk