Warning: "continue" targeting switch is equivalent to "break". Did you mean to use "continue 2"? in /home/wellbeingsite/FK268NZX/htdocs/wp-content/themes/Divi/includes/builder/functions.php on line 4766
Castell-nedd | well-being Assessment

CASTELL-NEDD

CYFLWYNIAD

Mae ardal gymunedol Castell-nedd yn cynnwys adrannau etholiadol Aberdulais, Tonna, Gogledd Castell-nedd, Dwyrain Castell-nedd, De Castell-nedd, Dwyrain Llansawel, Gorllewin Llansawel, De Bryncoch, Gogledd Bryncoch, Llangatwg, Dyffryn, Gorllewin Coedffranc, Gogledd Coedffranc, Coedffranc Canolog a’r Cimla.

Datblygodd tref Castell-nedd yn dref farchnad ar gyfer y cymoedd gwledig cyfagos. Mae tirnod y dref, clocdwr Eglwys Dewi Sant, yn union yng nghanol y dref.

Mae Neuadd Gwyn yng nghanol tref Castell-nedd yn dangos ffilmiau ac yn cynnal sioeau a pherfformiadau cerdd yn rheolaidd.

Mae canol tref Castell-nedd bellach yn rhan o gynllun adfywio sylweddol i wneud y fwrdeistref sirol yn lle deniadol i fyw a gwneud busnes ynddi ac ymweld â hi. Y weledigaeth ar gyfer Castell-nedd yw creu tref ddeniadol, fywiog a chystadleuol sy’n diwallu anghenion busnesau, siopwyr ac ymwelwyr, wrth gadw ei chymeriad tref farchnad.

Mae adfeilion Abaty Nedd ychydig y tu allan i’r dref ac mae Castell Nedd, sy’n adeilad rhestredig gradd II, yn y dref ei hun. Mae Castell-nedd hefyd yn gartref i glwb rygbi hynaf Cymru, sef Clwb Rygbi Castell-nedd. Mae Parc Gwledig Ystâd y Gnoll yn ymestyn o ganol y dref ac yn cynnwys pedwar llyn hwyaid, dwy raeadr o’r 18fed ganrif a chanolfan ymwelwyr gyda chaffi, ardal chwarae a lle chwarae antur.

CANFYDDIADAU ALLWEDDOL O’N HYMARFERION CYNNWYS AC YMCHWIL:

CYMDEITHASOL

Yn ôl ymatebwyr i’r arolwg o Gastell-nedd, roedd cysylltiad cryf rhwng lles cymdeithasol â rhwydweithiau cymdeithasol: ffrindiau, aelodau teulu a phobl y gellid dibynnu arnynt. Nodwyd yn aml bod byw’n iach, cynnal iechyd da (corfforol a meddyliol) a hapusrwydd yn ffactorau pwysig.

O ran pethau a allai wella lles cymdeithasol yr ardal, roedd ymatebwyr i’r arolwg o ardal gymunedol Castell-nedd yn poeni am:

gyda phrinder gweithgareddau i bobl ifanc

phroblemau cynyddol gydag ymddygiad gwrthgymdeithasol

chamddefnyddio cyffuriau ac alcohol

Nodwyd bod cyfleusterau lleol,
megis y sinema, yn rhy ddrud i lawer o bobl

Bu pryderon ynghylch darpariaeth gwasanaethau iechyd, gyda sôn am restr aros chwe mis i weld seiciatrydd, anawsterau wrth weld deintyddion a gofal iechyd meddwl gwael.

Teimlai ymatebwyr i’r arolwg y gellid gwella’u lles cymdeithasol petai ganddynt fwy o amser i gymdeithasu a mwy o arian i gefnogi gweithgareddau cymdeithasol.

ECONOMAIDD

Yn ôl ymatebwyr i’r arolwg, ystyrid mai meddu ar swydd oedd y cyfraniad mwyaf at les economaidd.

Gwnaeth ymatebwyr i’r arolwg bwysleisio effaith treth, cyfraddau llog a chredydau treth ar les unigol, gan nodi bod lles economaidd yn un o swyddogaethau gwariant llywodraeth, yn ogystal ag ymddygiad unigol.

O ran pethau a fyddai’n gwella lles economaidd unigolion, roedd llawer o ymatebion yn canolbwyntio ar:

fwy o dâl

llythrennedd ariannol gwell

biliau aelwyd is

Dengys gwybodaeth o’r cyfrifiad diwethaf (2011) y bu 4.1% o ddiweithdra yn ardal Castell-nedd a bod 29.3% o’r rhai a oedd yn 16 oed ac yn hŷn heb unrhyw gymwysterau, sy’n sylweddol uwch na ffigur Cymru gyfan, sef 25.9%.

O’r 22,518 o gartrefi yn yr ardal, nodwyd bod 14,488 (64.3%) yn ddifreintiedig, gan ddefnyddio un neu fwy o’r 4 dimensiwn amddifadedd canlynol: cyflogaeth, addysg, iechyd/anabledd a gorboblogi mewn aelwydydd (Cyfrifiad 2011).

 

AMGYLCHEDDOL

Mae ardal gymunedol Castell-nedd yn cynnwys tirwedd gyfoethog ac amrywiol â chynefinoedd coetir, gwlyptir, twyni tywod a gorlifdir. Mae’r rhain yn cynnwys Cors Crymlyn a Ffen Pant-y-sais sy’n Warchodfa Natur Genedlaethol ac sydd â’r dynodiad Ewropeaidd o Ardal Gadwraeth Arbennig, pedwar Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig , dwy Warchodfa’r Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt, dwy warchodfa natur leol a 35 o Safleoedd o Ddiddordeb er Cadwraeth Natur. Yn ogystal â bod yn gartref i rai rhywogaethau prin, megis corryn rafft y ffen, mae gan yr ardaloedd hyn leoedd amwynder heddychlon hefyd.

Mae camlesi Nedd a Thawe’n darparu cysylltedd ecolegol pwysig trwy’r ardal ac fe’u defnyddir yn helaeth hefyd ar gyfer cerdded a beicio. Ar ôl gwaith adfer sylweddol, mae bellach yn bosib mordwyo Camlas Nedd o ganol tref Castell-nedd i Abergarwed ger Resolfen.

Ceir mynediad da i’r ardal wledig amgylchynol trwy amrywiaeth o hawliau tramwy, gyda chyfleusterau hamdden megis parciau gwledig Ystâd y Gnoll a Chraig Gwladys.

Mae llygredd aer o draffig yn broblem mewn llawer o ardaloedd trefol y DU. Ardal o’r fath yw cyffiniau Gerddi Victoria yn y dref ac mae camau gweithredu i wella’r sefyllfa’n parhau.

Diffiniwyd lles amgylcheddol gan ymatebwyr i’r arolwg o ardal Castell-nedd fel a ganlyn:

– Mynediad i amgylchedd naturiol o safon uchel; dim llygredd, sŵn neu sbwriel; a

Ffactorau eraill a grybwyllwyd yn cynnwys:

Chyfleusterau ailgylchu

isadeiledd ffyrdd

mesurau rheoli traffig

llwybrau beicio da

O ran pethau a allai wella lles amgylcheddol yr ardal, rhoddodd ymatebwyr i’r arolwg o’r ardal bwyslais penodol ar fod yn agos at fannau gwyrdd, coetiroedd a thraethau. Roedd ansawdd aer yn bryder i rai preswylwyr, ynghyd â sicrhau bod afonydd yn lân a bod amgylchedd y cartref yn ddiogel, yn gynnes ac yn gyfforddus.

DIWYLLIANNOL

I bobl sy’n byw yn ardal gymunedol Castell-nedd, diffiniwyd lles diwylliannol trwy’r pwyslais ar weithgareddau a digwyddiadau diwylliannol (theatr, ffilm, cerddoriaeth, y celfyddydau a llyfrgelloedd), dysgu ac ymdeimlad o le. Soniodd pobl sy’n byw yn yr ardal am fod yn falch o fod yn Gymry, ac o fod yn wladgarol am chwaraeon (yn enwedig rygbi) a symbolau megis y genhinen Bedr. Yn ogystal, amlygwyd gwirfoddoli hefyd fel ffactor pwysig sy’n cyfrannu at les diwylliannol.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn rheoli dwy lyfrgell: un yng nghanol y dref a’r llall yn Sgiwen. Hefyd mae llyfrgell a reolir gan y gymuned yn Llansawel. Yng Nghastell-nedd ei hun, ceir 167 o adeiladau rhestredig.

Ceir nifer o gyfleusterau chwaraeon a hamdden yn yr ardal, gan gynnwys pwll nofio 25m. Ar hyn o bryd mae 38 o leoedd chwarae yn ardal gymunedol Castell-nedd; mae gan 34 o’r rhain gyfarpar chwarae sefydlog, mae 24 o barciau’n cynnwys mannau gwyrdd (gan amrywio o ardaloedd amwynder anffurfiol i goetir) ac mae gan dri o’r parciau ardal gemau amlddefnydd. Ceir nifer o gyfleusterau eraill yn yr ardal gan gynnwys cyrsiau golff yng Nghastell-nedd a Phentrecaseg.

Mae tri pharc a gardd hanesyddol yn yr ardal hefyd: Parc Gwledig Ystâd y Gnoll, Gerddi Victoria yng Nghastell-nedd a Pharc Jersey yn Llansawel. O ran adloniant, mae Castell-nedd yn ganolbwynt diwylliannol yr ardal, gyda Theatr Fach Castell-nedd, sy’n cynnal sioeau amatur lleol, a sinema yn Neuadd Gwyn.

O ran y Gymraeg, mae 10.8% (5,499) o breswylwyr Castell-nedd yn gallu siarad Cymraeg.

Yn debyg i ardal gymunedol Port Talbot, mae nifer y bobl o grwpiau du a lleiafrifoedd ethnig yn ardal gymunedol Castell-nedd yn fach, gan adlewyrchu’r sefyllfa gyffredinol ar draws y fwrdeistref sirol.

Mae crefydd yn bwysig i rai pobl sy’n byw yn ardal gymunedol Castell-nedd. Fodd bynnag, dengys gwybodaeth o’r cyfrifiad ostyngiad yng nghanran y bobl a oedd yn disgrifio eu hunain yn Gristnogion, o 72% yn 2001 i 58% yn 2011. Yn ystod yr un cyfnod, bu cynnydd amlwg yn nifer y bobl a oedd yn nodi ‘dim crefydd’, o 20% i 34%.

O ran cyfleoedd, amlygwyd prinder lleoliadau cerddoriaeth a theimlid bod bwlch mewn gwybodaeth ddiwylliannol ar ôl colli’r amgueddfa yng nghanol tref Castell-nedd o ganlyniad i dân. Yn ogystal, galwodd preswylwyr yr ardal am fwy o addysg i oedolion, gan ddangos awydd cryf i ddysgu’r Gymraeg a mwy am y diwylliant a’r dreftadaeth leol.

LAWRLWYTH PDFAU

Tel: 01639 763418

Tel: 01639 763418

Email: improvement@npt.gov.uk

Email: improvement@npt.gov.uk