Warning: "continue" targeting switch is equivalent to "break". Did you mean to use "continue 2"? in /home/wellbeingsite/FK268NZX/htdocs/wp-content/themes/Divi/includes/builder/functions.php on line 4766
Amgylchedd | well-being Assessment

AMGYLCHEDDOL

Mae nod llesiant Cymru Iachach yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn disgrifio Cymru fel a ganlyn:

Ffurfir ein tirwedd gan ein hadnoddau naturiol a sut rydym yn eu defnyddio ac yn rhyngweithio â nhw. Yn yr un modd, mae’r adnoddau naturiol hynny’n hanfodol ar gyfer ein lles, gan roi manteision iechyd uniongyrchol ac anuniongyrchol a chynnal ein ffyniant yn y dyfodol. Mae amgylchedd o safon yn rhoi nifer o fanteision naturiol i ni sy’n ein cadw ni’n hapus ac yn iach megis aer glân i’w anadlu, dŵr i’w yfed, bwyd, tanwydd, a lle gwych i ni ymarfer corff ac ymlacio ynddo.

Mae Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot (CNPT) yn cynnwys cymoedd eang afonydd Nedd, Dulais a Thawe. Ceir swm cymedrol o ffermio, yn yr ucheldiroedd yn bennaf, gyda’r prif drefi ac aneddiadau yn y gorlifdiroedd.

Mae’r amgylchedd naturiol wedi chwarae rhan bwysig yn ffyniant yr ardal yn ei gorffennol diwydiannol. Dyma yw’r achos hyd heddiw, ond mae’r ffocws wedi newid gyda dirywiad diwydiant trwm. Yn ddiweddar, mae’r ardal wedi dod yn hwb ar gyfer datblygiadau ynni adnewyddadwy. Mae’r amgylchedd naturiol o safon hefyd yn atyniad arwyddocaol i ymwelwyr.

BETH YW LLES AMGYLCHEDDOL?

Mae’r dystiolaeth a ddefnyddir i gyfeirio’r asesiad yn cynnwys ffynonellau ymchwil, pecyn tystiolaeth amgylcheddol Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer CNPT, dangosyddion cenedlaethol a ddarperir gan Lywodraeth Cymru, gwybodaeth berfformio arall, tystiolaeth a gasglwyd i gyfeirio Cynllun Datblygu Lleol y cyngor ac asesiadau statudol/cenedlaethol/lleol eraill a gynhaliwyd.

DŴR

PAM MAE DŴR YN BWYSIG I LES?

Rydym yn ei gymryd yn ganiataol, ond dŵr yw un o’n hanghenion mwyaf sylfaenol a hanfodol, a hebddo ni fyddai unrhyw fywyd ar ein planed. Mae dŵr glân yn hanfodol i fusnesau a diwydiannau, y ddau brif ddefnydd yn y DU yw ynni (cynhyrchu trydan) a ffermio. Mae dŵr hefyd yn ffurfio ein hamgylchedd sy’n creu rhai o nodweddion gwych y byd naturiol ac mae’n darparu cyfleoedd adloniant ac ymlacio i ni.

BETH YW’R PWYSAU AR EIN HAMGYLCHEDD DŴR?

Nid yw ychydig dan hanner y cyrff dŵr yn y fwrdeistref sirol yn bodloni’r safon ansawdd Ewropeaidd ofynnol. Yn ogystal â materion etifeddiaeth o ddiwydiannaeth y gorffennol, mae twf trefoli’n gosod mwy o bwysau ar yr amgylchedd dŵr.

Mae’r problemau y mae ein hafonydd yn eu hwynebu’n cynnwys y canlynol:-

– Dŵr pyllau glo o waith glo sydd wedi’i adael, tir wedi’i halogi a choredau gwneud sy’n rhwystro llwybr pysgod.

– Gwaredu llygredd trefol.

– Hen systemau carthffosiaeth a chysylltiadau carthffosiaeth gwael rhwng stadau tai a stadau diwydiannol.

Mae anghenion dŵr y fwrdeistref sirol yn cael eu diwallu’n bennaf drwy drosglwyddo o ddalgylchoedd eraill, ond mae anghenion diwydiant e.e. Tata, yn cael eu bodloni o ffynonellau afonol.

I’r gwrthwyneb, gall gormod o ddŵr wyneb beri problemau. Mae Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd Gorllewin Cymru’n nodi bod y fwrdeistref sirol yn ardal o berygl llifogydd sylweddol ac mae ganddi bedwar o’r deg cymuned sydd yn y perygl mwyaf o lifogydd o brif afon: Port Talbot, Margam, Morfa Glas (Glyn-nedd) a Resolfen. Y cymunedau eraill yr ystyrir eu bod mewn perygl yw Baglan, Glyncorrwg, Castell-nedd, Trebannws ac Ystalyfera. Wrth edrych ymlaen, ni ellir dibynnu ar amddiffynfeydd llawr “caled” traddodiadol a rhaid edrych ar ddewisiadau eraill gan gynnwys gweithio gyda phrosesau naturiol a rhoi arferion rheoli tir eraill ar waith er mwyn rheoli dŵr ffo’n well.

AER

PAM MAE AER YN BWYSIG I LES?

Yn aml, fe’i cymerir yn ganiataol…

Yn ogystal â’r effeithiau iechyd, mae ansawdd aer gwael hefyd yn effeithio ar ansawdd bywyd pobl yn ogystal â’u safon byw os ydynt yn cael eu hatal rhag gweithio. Y brif ffynhonnell o lygredd aer yw’r hyn a wneir gan ddyn ac mae’r problemau’n waeth yn yr ardaloedd trefol nac yng nghefn gwlad.

BETH YW’R PWYSAU AR EIN HAER?

Mae pedwar prif fater ansawdd aer yn y fwrdeistref sirol:-

– Ansawdd aer (PM10 – mater gronynnol o 10 micrometr neu lai mewn maint) ym Mhort Talbot.

– Ansawdd aer sy’n gysylltiedig â thraffig.

– Nicel o brosesau diwydiannol.

– Llwch niwsans o safleoedd ar draws y fwrdeistref sirol.

Mae nifer o ffactorau’n effeithio ar ansawdd aer Port Talbot, gan gynnwys y tywydd, topograffeg, ffynonellau allyriad o’r ardal leol a’r tu hwnt iddi, ac mae’n gysylltiedig yn benodol â’r gwaith dur a thrafnidiaeth. Dynodwyd Tai-bach/Margam yn Ardal Rheoli Ansawdd Aer yn 2000. Mae ansawdd aer ym Mhort Talbot wedi dangos gwelliannau sylweddol dros y 10 mlynedd diwethaf ond ceisir mwy o welliannau.

Mae ansawdd aer sy’n gysylltiedig â thraffig yn dibynnu ar y tywydd, yn lleol ac yn cael ei fesur yn gyson ledled y fwrdeistref sirol. Mae llygredd traffig yn broblem fawr ledled y DU. Yn ôl gwaith monitro, mae angen gweithredu yn ardal Gerddi Victoria, Castell-nedd ac ar Heol Abertawe, Pontardawe. O ganlyniad i’r ymyriadau, mae lefelau llygredd yn y lleoliad olaf wedi gostwng yn sylweddol ac felly mae’r monitro parhaus wedi dod i ben. Mae ymdrechion i wella Gerddi Victoria’n parhau.

TIR

PAM MAE TIR YN BWYSIG I LES?

Mae’r manteision a geir o’n hamgylchedd daearol yn eang ac yn lluosog. Maent yn cynnwys tyfu bwyd, ffibr a thanwydd, darparu deunyddiau crai, yn ogystal â manteision ysbrydol, hamddenol a diwylliannol o’n tirweddau lleol. Mae’r ffordd rydym yn defnyddio ac yn rheoli’r tir fel cylch ac mae’n effeithio ar fuddion y dyfodol yr ydym yn gallu eu derbyn ohono. Ein her yw rheoli diddordebau cystadleuol sy’n gwrthdaro megis amaethyddiaeth, diwydiant, tai, hamdden etc wrth gynnal a gwella bioamrywiaeth a’r dirwedd rydym yn ei gwerthfawrogi.

BETH YW’R PWYSAU AR EIN TIR?

Mae gan yr ardal dreftadaeth ddiwydiannol gref, gyda chloddio helaeth am lo i ddiwallu anghenion mwyndoddi haearn a chopr. Yn dilyn hyn, datblygwyd y diwydiant haearn ac yna’r diwydiant gwneud dur ynghyd ag arallgyfeirio i’r diwydiannau olew a phetrocemegol. Roedd rhai o’n dewisiadau yn y gorffennol yn seiliedig ar anghenion a blaenoriaethau gwahanol iawn ac mewn rhai ardaloedd maent wedi gadael etifeddiaeth barhaus e.e. tir halogedig. Gall halogi beri niwed sylweddol i ecosystemau, pobl, eiddo yn ogystal â llygru dŵr daear a dŵr wyneb. Wrth ailddatblygu tir llwyd, mae’n bwysig sicrhau bod yr holl beryglon sy’n gysylltiedig â thir halogedig posib wedi’u trafod fel bod y tir yn addas i’w ddefnyddio. Rydym eisoes wedi gweld nifer o safleoedd allweddol yn y fwrdeistref sirol yn cael eu hailddatblygu’n llwyddiannus gan gynnwys Pentref Trefol Coed Darcy ac ail gampws Prifysgol Abertawe. Y Cyngor Bwrdeistref Sirol yw’r corff arweiniol sy’n gyfrifol am y mater hwn ac mae wedi nodi ei ymagwedd at fynd i’r afael â thir halogedig yn ei Strategaeth Tir Halogedig (2015).

Mae tanau gwyllt yn broblem yn CNPT a fydd yn gwaethygu oherwydd newid yn yr hinsawdd. Mae tanau gwyllt yn effeithio ar gymunedau lleol drwy ddinistrio bywyd gwyllt, coedwigoedd a llechweddau, gan gyfyngu ar fannau gwyrdd i’r cyhoedd, creu llygredd aer a rhoi straen a chost sylweddol ar adnoddau cyhoeddus.

 

Mae’r amgylchedd byw naturiol yn gwella ansawdd bywyd pobl leol. Gall wella lles meddwl pobl yn ogystal ag annog ymarfer corff yn yr awyr agored gan arwain at iechyd gwell a llai o glefydau cronig. Rhaid i ni archwilio cyfleoedd mynediad i ddeall yn well y rhwystrau sy’n atal pobl rhag mwynhau mannau agored naturiol.

Gall adnoddau naturiol mewn ardaloedd trefol, yn arbennig isadeiledd gwyrdd – parciau, coed a choedwigoedd, afonydd a phyllau – gefnogi cymunedau (ein systemau cymdeithasol), gan roi cyfle am weithgareddau hamdden, rhyngweithio a chyfranogiad. Mae hyn yn helpu i feithrin cydlyniant cymdeithasol ynghyd â gwella lles meddwl a chynyddu gweithgareddau corfforol, y mae’r ddau beth yn arbennig o fuddiol mewn ardaloedd mwy difreintiedig yn CNPT lle gall cydlyniant cymunedol fod yn is.

Mae rhan sylweddol o’r fwrdeistref sirol (12900 ha, oddeutu 30%) yn cynnwys Ystâd Coetir Llywodraeth Cymru a reolir gan CNC. Yn ogystal â darparu pren masnachol, mae gan yr ardaloedd hyn werth amwynder uchel, ac mae Parc Coedwig Afan yn un o’r canolfannau llwybrau beicio mynydd mwyaf poblogaidd yng Nghymru. Effeithiwyd yn ddifrifol ar y coedwigoedd yn y fwrdeistref sirol gan Phytophthera Ramorum neu Glefyd Llarwydden sydd wedi arwain atdorri coed ar raddfa fawr. Er bod coed yn cael eu hailblannu yn yr ardaloedd hyn, bydd yn cymryd blynyddoedd i’r coetiroedd newydd hyn ddatblygu’n llawn. Mae amaethyddiaeth a choedwigaeth yn hynod ymatebol i newid yn yr hinsawdd a bydd angen i ni addasu ein harferion yn unol â hynny.

ANIFEILIAID, PLANHIGION AC ORGANEBAU ERAILL – BIOAMRYWIAETH

PAM MAE BIOAMRYWIAETH MOR BWYSIG I LES?

Mae ein heconomi, ein hiechyd a’n lles yn dibynnu ar ecosystemau iach a chadarn, sy’n rhoi bwyd, dŵr ac aer glân i ni, y deunyddiau crai a’r ynni y mae eu hangen ar ein diwydiannau ac maent yn ein hamddiffyn rhag peryglon, megis llifogydd a newid yn yr hinsawdd.

Mae hollbwysig ein bod yn cynnal ac yn gwella ein bioamrywiaeth i sicrhau ei bod yn parhau’n iach, yn gadarn ac yn gallu addasu i newid.

Mae bioamrywiaeth hefyd yn wasanaeth diwylliannol. Mae angen cysylltiadau â natur a’r amgylchedd naturiol ar bobl ac maent yn elwa ohonynt, p’un a yw hynny at ddibenion hamdden ac adloniant, addysg neu’n ysbrydol ac o ran ymdeimlad o le.

Ar gyfer cenedlaethau presennol a rhai’r dyfodol ac er gwaethaf ei gorffennol diwydiannol mae gan CNPT fywyd gwyllt cyfoethog ac amrywiol. Mae rhai o’n cynefinoedd pwysig o bwysigrwydd cenedlaethol a rhyngwladol e.e. Cors Crymlyn a Ffen Pant-y-Sais. Mae camlesi ac afonydd yn gynefinoedd pwysig, sy’n darparu cysylltedd ecolegol.

BETH YW’R PWYSAU AR EIN BIOAMRYWIAETH?

Mae ein bioamrywiaeth dan fygythiad oherwydd amrywiaeth o faterion, ond dau o’r prif bwysau yw newid yn yr hinsawdd ac amaethyddiaeth (parthed Adroddiad Sefyllfa Byd Natur 2016). Un o’r pethau sy’n cyfrannu at y pwysau yw dinistrio cynefinoedd, sy’n golygu bod rhywogaethau’n fwy ynysig ac nid ydynt yn gallu addasu i newidiadau. Mae rheolaeth ansensitif a newidiadau i’r defnydd o dir a mwy a mwy o drefoli’n golygu bod cynefinoedd a chysylltedd cynefinoedd yn cael eu colli. Serch hynny, mae’r darlun yn un cymysg ac mae rhai rhywogaethau’n gwneud yn well nag eraill e.e. Barcutiaid coch.

Mae rhywogaethau anfrodorol ymledol, megis ffromlys chwarennog a chanclwm Japan yn bygwth bioamrywiaeth leol yn fwyfwy gan eu bod yn gallu trechu ein rhywogaethau brodorol.

NEWID YN YR HINSAWDD

Mae gorddefnyddio adnoddau naturiol y ddaear, llosgi tanwydd ffosil (fel olew, glo a nwy) a’r newid yn yr hinsawdd o ganlyniad i hynny’n cael effaith ar yr amgylchedd naturiol sy’n cael effaith arwyddocaol ar y raddfa amser ddaearegol. Mae newid yn yr hinsawdd fyd-eang yn arwain at dymereddau a lefelau môr uwch a chynnydd yn nifer y digwyddiadau tywydd eithafol mewn nifer o ranbarthau.

 

Bydd newid yn yr hinsawdd yng Nghymru’n arwain at:

Mwy o ddiwrnodau poeth iawn.

Fwy o law trwm a llifogydd.

Gaeafau gwlypach a mwynach.

Mwy o lifogydd mewn ardaloedd arfordirol isel.

Llai o eira a rhew.

Hafau cynhesach a sychach, mwy o sychder a pherygl o danau gwyllt.

Lefelau dŵr daear is.

PAM MAE BIOAMRYWIAETH YN BWYSIG I LES?

Mae newid yn yr hinsawdd yn digwydd nawr, a bydd yn effeithio ar ein lles a lles cenedlaethau’r dyfodol. Mae Asesiad Risg Newid yn yr Hinsawdd 2017 yn rhestru’r prif beryglon i’r DU fel a ganlyn:

– Peryglon llifogydd ac erydu arfordirol i gymunedau, busnesau ac isadeiledd.

– Peryglon i iechyd, lles a chynhyrchiant oherwydd tymereddau uchel ac isel.

– Perygl o brinder cyflenwad dŵr cyhoeddus, ac ar gyfer amaethyddiaeth, cynhyrchu ynni a diwydiant.

– Peryglon i gyfalaf naturiol, gan gynnwys ecosystemau daearol, arfordirol, morol a dŵr croyw, pridd a bioamrywiaeth.

– Peryglon i gynnyrch bwyd a masnach cartref a rhyngwladol.

– Plâu a chlefydau newydd a rhai sy’n ymddangos, a rhywogaethau anfrodorol ymledol sy’n effeithio ar bobl, planhigion ac anifeiliaid.

NEWID YN YR HINSAWDD A CHASTELL-NEDD PORT TALBOT

Mae gan CNPT stâd goetiroedd eang (30%). Yng nghyd-destun newid yn yr hinsawdd, mae coetiroedd yn bwysig oherwydd eu gallu i ‘gloi’ carbon a gynhyrchir wrth losgi tanwyddau ffosil a rôl coetiroedd i liniaru ac addasu newid yn yr hinsawdd. Serch hynny, bydd gan newidiadau i amodau hinsoddol oblygiadau pellgyrhaeddol ar gyfer coetiroedd yng Nghymru gan gynnwys sut rydym yn rheoli ein coedwigoedd, addasrwydd a dosbarthiad rhywogaethau coed gwahanol a’r manteision y gallwn eu cael ganddynt. Mae gallu coetiroedd i addasu i newid yn yr hinsawdd o ganlyniad i’w gwydnwch ecolegol a rhaid i ni eu diogelu a’u rheoli nhw’n gynaliadwy.

Yn y fwrdeistref sirol, mae tanau gwyllt yn broblem gynyddol. Mae newid yn yr hinsawdd yn golygu tywydd cynhesach, sychach ac felly mwy o danau gwyllt. Mae’r rhain yn cael effaith ar gymunedau lleol drwy ddinistrio bywyd gwyllt, coedwigoedd a llechweddau, gan gyfyngu ar fynediad cyhoeddus i fannau gwyrdd, creu llygredd aer a rhoi straen a chost sylweddol ar adnoddau cyhoeddus.

Yn CNPT, mae allyriadau CO2 fesul preswylydd yn uwch na chyfartaledd Cymru oherwydd y diwydiant trwm yn yr ardal. Serch hynny mae cynhyrchu ynni adnewyddadwy’n cynyddu.

Prosiect Ynni Gwynt Pen y Cymoedd yw’r fferm wynt ar y tir fwyaf yng Nghymru a Lloegr gyda 76 o dyrbinau wedi’u hadeiladu ar safle a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae dalgylch afon Nedd yn cyflwyno cyfleoedd ynni dŵr, gyda nifer eisoes wedi’u gosod a chynlluniau eraill yn bosibilrwydd.

Disgwylir i newid yn yr hinsawdd gyfyngu ar y cyflenwad dŵr a bydd twf yn y boblogaeth yn ychwanegu at y galw.
Yn CNPT, bydd gostwng llif afonydd yn peri problemau i’r byd diwydiant. Cyflenwad cyfyngedig o ddŵr sydd ar gael ar gyfer tyniadau newydd o afonydd Nedd, Nedd Fechan a Mellte.

Gall diogelu bioamrywiaeth yn CNPT ein helpu i addasu i newid yn yr hinsawdd. Mae ecosystemau iachus ac ardaloedd a warchodir yn fwy gwydn i newid yn yr hinsawdd ac yn gallu cyflwyno manteision naturiol y mae ein lles yn dibynnu arnynt.

Yn CNPT, gall natur ein helpu i addasu i newid yn yr hinsawdd. Dylai rheoli llifogydd naturiol, er enghraifft fod yn rhan annatod o’r ymdrech addasu gyffredinol yn ogystal ag adeiladu amddiffynfeydd llifogydd mwy traddodiadol. Gall ymagweddau o’r fath gael manteision ehangach, megis diogelu bioamrywiaeth a chreu a gwella mannau gwyrdd ar gyfer hamdden a thwristiaeth.

DYWEDOCH WRTHYM

Mae gan y term “lles amgylcheddol” amrywiaeth o ystyron ymhlith pobl sy’n byw yn CNPT.

Mae Adroddiad Miller wedi dangos bod cael amgylchedd glân yn un o’r nodweddion pwysicaf ar gyfer lles amgylcheddol. Roedd chwarter o’r bobl a arolygwyd yn rhannu’r farn hon, er enghraifft:

Cyfeiriodd cyfran debyg at yr awyr agored – ac yn benodol cael mynediad i fannau hamdden o safon neu’r gallu i’w mwynhau, boed hynny’n fynediad i fannau gwyrdd, parciau, cefn gwlad, morlin ac adnoddau naturiol fel a nodir gan y ddau ddyfyniad canlynol:

Yn ogystal â hyn, cafodd yr angen i gynnal mannau agored, ac yn benodol eu cadw nhw’n lân heb sbwriel, ei grybwyll gan un o bob deg ymatebwr a’i drafod yn helaeth yn ystod y gweithdai. Roedd trafodaethau ar y thema hon yn ymwneud â gwaredu sbwriel yn rheolaidd, darparu mwy o finiau baw cŵn a gwell addysg i atal pobl rhag taflu sbwriel yn y lle cyntaf.

Nododd rhai ymatebwyr ddiffyg darpariaeth cerdded a beicio diogel, gydag eraill yn crybwyll yr angen am fynediad i gar a darpariaeth parcio ceir briodol, gyda llawer yn galw am iddi fod am ddim.

Beth mae hyn yn ei olygu neu’n cyfeirio ato, yn eich barn chi?

Eich lefel o les amgylcheddol?

Roedd ymatebwyr hefyd yn pryderu am lygredd, gydag 14 % yn crybwyll hyn wrth ddisgrifio ystyr lles amgylcheddol iddyn nhw.

Tynnwyd sylw at yr amgylchedd trefol, yn arbennig canol tref Castell-nedd, am resymau negyddol gan nad oedd yn cefnogi lles amgylcheddol.

Yn fwy cyffredinol, roedd ymatebwyr i’r arolwg am weld tir amwynder, mannau agored a chyfleusterau hamdden ‘gwell’ neu ‘fwy ohonynt’ yn gyffredinol. Cyfeiriodd chwarter o’r sampl at y ffaith bod llai o sbwriel a bod yr amgylchedd yn lanach. O’r rhai a ymatebodd i’r arolwg, cyfeiriodd 13% at ‘lygredd’ wrth ddisgrifio’r hyn y gellid ei wella, awgrymwyd efallai fod canfyddiadau llygredd yn cael eu dwysáu yn CNPT (roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr yn dod o ardal cymuned Port Talbot).

Mae cynnwys pobl leol yn y broses hon hyd yn hyn wedi ein helpu i nodi rhai themâu sy’n dod i’r amlwg ynghylch elfennau amgylcheddol sydd o bwys i bobl CNPT:

Mae safon eu hamgylchoedd yn ddylanwad allweddol ar ymdeimlad pobl o les, ac ystyrir bod mynediad da i’r glannau, coedwigaeth, afonydd, bryniau neu barcdir yn rhoi hwb sylweddol i les. Yn rhai o gymunedau uchaf y cwm, megis Cwm Afan, mae tlodi economaidd cymharol yn cael ei wrthbwyso i ryw raddau gan y dirwedd ffisegol o safon, ac mae cymunedau yn y cymoedd is sy’n agosach at yr arfordir yn gosod gwerth mawr ar fynediad i lan y môr. Yn anffodus, nid yw llawer o’r trefi a’r amgylchedd adeiledig yng Nghastell-nedd yn benodol yn gallu bodloni’r safonau hyn ac roedd llawer o randdeiliaid yn teimlo nad oeddent yn gallu ymfalchïo yn eu trefi lleol fel y maent, gyda siopau’n cau, safonau cynnal a chadw gwael a gormod o draffig.

O ran materion amgylcheddol ehangach, ymddengys fod pobl wedi cymryd cyfrifoldeb am yr angen i ailgylchu, ac mae parodrwydd eang i’w hyrwyddo ymhellach. Ceir condemnio eang ynghylch taflu sbwriel a thipio anghyfreithlon yn yr ardal a dymuniad i weld dirwyon drytach i’r rhai sy’n troseddu yn y ffordd hon. Caiff ynni adnewyddadwy hefyd ei gefnogi’n gyffredinol, ac eithrio rhai ardaloedd lle mae ffermydd gwynt megis Pen y Cymoedd yn cael eu hadeiladu ar hyn o bryd. Canfyddir bod llygredd aer yn rhwystr i les mewn rhannau o’r ardal, caiff ei nodi fel problem i rai preswylwyr Port Talbot, Castell-nedd a Dyffryn Aman. Ceir pryderon am lifogydd, yn arbennig yn Nyffryn Aman ac ym Mhontardawe

SUT BYDD LLES AMGYLCHEDDOL YN EFFEITHIO AR DUEDDIADAU’R DYFODOL?

ANIFEILIAID, PLANHIGION AC ORGANEBAU ERAILL

Mae 56% o’r rhywogaethau wedi dirywio dros y degawdau diwethaf. Mae mwy nag un o bob deg o’r rhywogaethau a aseswyd dan fygythiad diflannu o’n glannau’n llwyr. (Adroddiad Sefyllfa Byd Natur 2016 RSPB)

Mae tueddiadau o ran niferoedd rhywogaethau daearol, dŵr croyw a morol yn amrywio’n helaeth; gyda rhai rhywogaethau’n cynyddu ac eraill yn dirywio. Er enghraifft, gwelir cynnydd a dirywiad o ran adar, ystlumod a llawer o rywogaethau peillio (e.e. gwenyn, ieir bach yr haf), ond ar gyfer rhywogaethau eraill nid oes gennym ddata digonol i seilio unrhyw gasgliadau.

Gwelwyd dirywiad nodedig yn y cyflenwad eog yn y blynyddoedd diweddar, yn arbennig yn rhanbarthau’r de lle ceir cysylltiad â chynnydd marwolaeth yn y môr. Er bod cyflenwadau mewn llawer o’r afonydd diwydiannol wedi gwella yn ystod y 30 mlynedd diwethaf, mae her fawr yn wynebu’r rhan fwyaf o’r cyflenwadau yng Nghymru.

ANSAWDD AER

Mae targedau ar gyfer nitrogen deuocsid, a mater gronynnol (PM), hydrocarbon aromatig amlgylchredol a nicel yn cael eu torri yng Nghymru, gan beri bygythiad i iechyd dynol a’r amgylchedd naturiol.

Mae dirywiad diwydiant trwm ynghyd â rheoleiddio wedi arwain at ostyngiad mewn allyriadau rhai llygryddion, megis mater gronynnol (PM). Mae ffynonellau eraill, sy’n destun llai o reolaeth reoleiddiol neu ddim o gwbl, megis trafnidiaeth, amaethyddiaeth a gwresogi domestig, yn fwy o bryder.

Mae amonia’n dal i fod yn broblem, fel llygrydd aer lleol ac mae’n cyfrannu at ffurfio mater gronynnol eilaidd. Mae crynodiadau o fater gronynnol eilaidd wedi cynyddu yng Nghymru yn y blynyddoedd diwethaf, yn bennaf oherwydd newidiadau mewn arferion amaethyddol.

DŴR

Rhagwelir y bydd newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar swm a gwasgariad glaw; mae hyn yn cael effaith ar lif a lefelau dŵr, sychder a llifogydd; erbyn 2050 gallai llif afonydd yn y gaeaf godi 10 i 15% ond yn yr haf a dechrau’r hydref gallai ostwng i dros 50% a hyd at 80% mewn rhai lleoedd.

Gallai sychder a llifogydd ddod yn fwy cyffredin.

Erbyn 2025, mae’n debygol y bydd gallu’r tir i amsugno dŵr daear yn gostwng, gan arwain at ostyngiad mewn llif afonydd pan fo tywydd sych a gostyngiad lefelau dŵr daear yn gyffredinol. Gallai hyn gael effaith ar lif gwaelodol i afonydd a gwlyptiroedd yn ystod cyfnodau sych a gallai effeithio ar gyflenwadau dŵr domestig ac amaethyddol bach.

O fewn Dalgylch Rheoli Tawe i Langatwg, mae 43% o gyrff dŵr wyneb yn dda, 52% yn gymedrol a 5% yn wael. Ni cheir cyrff dŵr â statws uchel neu gyffredinol wael. (Cynllun Rheoli Basnau Afonydd Gorllewin Cymru 2016)

PRIDD

Mae crynodiadau carbon uwchbridd yn gyffredinol sefydlog ac mae gwaith adfer parhaus o asideiddio pridd, mae’n parhau i fod yn uwch na’r lefelau optimwm mewn llawer o gaeau amaethyddol (44%). Cafwyd braidd dim dirywiad neu ddim dirywiad o gwbl mewn lefelau dyrchafedig difwynwyr pridd o ddiwydiant a thrafnidiaeth. Er y cafwyd dirywiad sylweddol mewn lefelau ffosfforws pridd ar gyfer tir sydd wedi’i wella. Nid yw niferoedd infertebrat pridd (mesofauna) yn nodi tuedd gyffredinol.

LAWRLWYTH PDFAU

Tel: 01639 763418

Tel: 01639 763418

Email: improvement@npt.gov.uk

Email: improvement@npt.gov.uk